Mae papur newydd yn gyhoeddiad sy'n cynnwys newyddion, gwybodaeth a hysbysebu, fel arfer wedi'i gyhoeddi ar bapur rhad. Gall thema'r papur fod yn un cyffredinol neu o ddiddordeb arbennig, ac fel arfer cyhoeddir yn ddyddiol neu'n wythnosol.

Stondin papurau newydd rhyngwladol

Fformat golygu

Mae'r rhan fwyaf o bapurau newydd modern yn un o dri maint:

Papurau newydd Cymraeg golygu

Prif erthygl: Papurau newydd Cymraeg.

Caiff Y Cymro ei gyhoeddi'n wythnosol. Mae papurau bro – papurau cymunedol a gaiff eu hysgrifennu gan wirfoddolwyr – wedi dod yn brif nodwedd diwylliant newyddiaduro Cymru yn ystod y tri degawd diwethaf. Y Byd oedd y papur newydd dyddiol Cymraeg arfaethedig.

Papurau newydd Saesneg Cymru golygu

Ymhlith y papurau newydd Saesneg a gyhoeddwyd yng Nghymru mae:

Enwau golygu

Mae enwau papurau newydd yn amrywio'n eang o iaith i iaith ac o wlad i wlad. Mae rhai teitlau yn gwbl unigryw, ond mae nifer o newyddiaduron yn rhannu elfennau tebyg yn eu henwau. Yn aml, mae'r enwau yn cynnwys nod o ddinas, ardal neu wlad y papur. Ceir enghreifftiau o'r elfennau amlaf isod:

Mae gan nifer o bapurau teitlau sy'n cyfleu faint mor aml y'i cyhoeddir, megis y Daily Express Rénmín Rìbào, a The Weekly News. Mae gan eraill deitlau sy'n dynodi ai papur bore neu bapur hwyr yw'r cyhoeddiad, er enghraifft y South China Morning Post, De Morgen, a Le Soir. Mae rhai enwau hefyd yn cyfeirio at gymeriadau mytholegol megis y negesydd Mercher (El Mercurio, San Jose Mercury News) neu Argus Panoptes (Cape Argus, South Wales Argus). Mae rhai enwau yn cyfuno mwy nag un o'r syniadau uchod, er enghraifft yr International Herald Tribune, The Globe and Mail, y Chicago Sun-Times, a Baner ac Amserau Cymru. Gan amlaf mae enw cyfansawdd o'r fath yn arwydd o ddau gyhoeddiad yn cyfuno.[1]

Yr Unol Daleithiau golygu

Ym 1937, roedd gan tua ddau o bob tri phapur newydd dyddiol yn yr Unol Daleithiau un o'r enwau canlynol: News, Times, Journal, Herald, Tribune, Press, Star, Record(er), Democrat, Gazette, Post, Courier, Sun, Leader, Republic(an).[1] Mae'r teitlau Democrat a Republic(an) ar gyhoeddiadau Americanaidd yn cyfeirio at ddwy brif blaid yr Unol Daleithiau, y Democratiaid a'r Gweriniaethwyr.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Larson, Cedric. "American Newspaper Titles", American Speech, 12(1) (Chwefror 1937), tt. 10-18.
Chwiliwch am papur newydd
yn Wiciadur.