Ariadaeth
Ffurf ar Gristnogaeth a ddaeth yn boblogaidd yn Ymerodraeth Rufeinig y Dwyrain o'r drydedd ganrif OC ymlaen oedd Ariadaeth (neu Ariaeth). Fe'i dyfeisiwyd gan Arius (256-336 OC), offeiriad oedd yn gweithio yn Alecsandria yn yr Aifft. Doedd Ariadaeth ddim yn derbyn bod y Tad a Christ o'r un sylwedd. Yn ôl Arius, roedd Iesu Grist, er ei fod yn dduwiol, yn israddol i'r Tad gan iddo gael ei greu ganddo.
Enghraifft o'r canlynol | cred crefyddol |
---|---|
Math | heresi |
Y gwrthwyneb | y Drindod |
Daeth i ben | 689 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Daeth Ariadaeth yn ddadleuol iawn yn yr Eglwys Fore, ac fe'i condemniwyd fel heresi yng Nghyngor Cyntaf Nicea yn 325. Ni ddaeth hyn â'r ddadl i ben, o achos poblogaeth Ariadaeth Ymerodraeth Caergystennin a'r gefnogaeth a gafodd gan ymerodron diweddarach Caergystennin fel Constantius II a Valens. Fe wnaeth Ariadaeth golli tir ar ôl Cyngor Cyntaf Caergystennin o dan yr Ymerawdr Theodosius yn 381, ond arhosodd yn ddylanwadol ymysg y teyrnasoedd Germanaidd cynnar, yn enwedig gan y Gothiaid.