Arjen Robben
Pêl-droediwr o'r Iseldiroedd ydy Arjen Robben (ganwyd 23 Ionawr 1984) sy'n chwarae i glwb Bayern Munich yn y Bundesliga yn Yr Almaen ac i dîm pêl-droed cenedlaethol Yr Iseldiroedd.
Arjen Robben | |
---|---|
Ganwyd | 23 Ionawr 1984 Bedum |
Dinasyddiaeth | Brenhiniaeth yr Iseldiroedd |
Galwedigaeth | pêl-droediwr |
Taldra | 180 centimetr |
Pwysau | 80 cilogram |
Gwobr/au | Dutch Footballer of the Year, Premier League Player of the Month, Bravo Award, Goal of the Month, German Footballer of the Year |
Chwaraeon | |
Tîm/au | FC Groningen, PSV Eindhoven, Chelsea F.C., F.C. Bayern München, Tîm pêl-droed cenedlaethol yr Iseldiroedd, Netherlands national under-21 football team, Real Madrid C.F., Netherlands national under-17 football team, Netherlands national under-19 football team, FC Groningen, VV Bedum, Netherlands national under-15 football team, FC Groningen |
Safle | canolwr, hanerwr asgell |
Gwlad chwaraeon | Yr Iseldiroedd |
Dechreuodd ei yrfa broffesiynol gyda Gronningen lle roedd yn Chwaraewr y Flwyddyn yn yr Eredivisie yn 2000/01 cyn symud i PSV Eindhoven am €3.9m yn ystod haf 2002[1]. Llwyddodd i ennill pencampwriaeth gyda PSV yn 2003 ac roedd ei berfformiadau yn ddigon i ddenu sylw sawl clwb, ond cytunodd i ymuno â Chelsea ar ddiwedd tymor 2003/04 am £12m[2].
Casglodd ddau bencampwriaeth Uwch Gynghrair Lloegr ond, wedi tymor rhwystredig oherwydd anafiadau, symudodd i Sbaen a Real Madrid am €35m ym mis Awst 2007[3] ac enillodd y bencampwriaeth yn ei dymor cyntaf yn y Santiago Bérnabeu.
Ym mis Awst 2009 symudodd Robben i Bayern Munich am ffi oddeutu €25 million[4] ac mae wedi casglu tair pencampwriaeth yn 2009/10, 2012/13 a 2013/14 yn ogystal â sgorioi'r gôl fuddugol yn rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn 2012/13.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Player Profile: Arjen Robben". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-09-27. Cyrchwyd 2014-06-13. Unknown parameter
|published=
ignored (help)CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link) - ↑ "Chelsea sign Robben". 2004-03-02. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Heinze and Robben seal Real switch". 2007-08-23. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Bayern Munich seal Robben signing". 2009-08-28. Unknown parameter
|published=
ignored (help)