Real Madrid C.F.

Clwb pêl-droed Sbaen

Clwb pêl-droed o ddinas Madrid yw Real Madrid Club de Fútbol (Cymraeg: Clwb Pêl-droed Brenhinol Madrid). Mae'r clwb yn chwarae yn La Liga, prif adran pêl-droed Sbaen.

Real Madrid C.F.
Enw llawnReal Madrid Club de Fútbol
Llysenw(au)Los Blancos ("Y Gwynion")
Los Merengues
Los Galacticos
Sefydlwyd6 Mawrth 1902
(fel Madrid Football Club)
MaesSantiago Bernabéu
CadeiryddBaner Sbaen Florentino Pérez
CynghrairLa Liga
2018-193.

Ffurfiwyd y clwb fel Madrid Football Club ar 6 Mawrth, 1902[1] a chaniataodd Brenin Alfonso XIII i'r clwb ddefnyddio'r rhagddodiad Real ym 1920[2].

Mae'r clwb yn chwarae eu gemau cartref yn yr Estadio Santiago Bernabéu ers 1947.

Hanes Cynnar

golygu

Cafodd pêl-droed ei gyflwyno ym Madrid gan fyfyrwyr yr Institución Libre de Enseñanza oedd â sawl cyn fyfyriwr o Brifysgolion Caergrawnt a Rhydychen. Ffurfiwyd Football Club Sky ym 1897 ond gadawodd grŵp o chwaraewyr, gan gynnwys y capten, Julian Palacios, glwb Sky er mwyn sefydlu clwb newydd o'r enw Madrid Football Club ym 1902[3].

Tair blynedd ar ôl ei ffurfio, llwyddodd Madrid FC i gipio'r tlws cyntaf yn eu hanes wrth drechu Athletic Bilbao yn rownd derfynol y Copa del Rey[4]. Ym 1909 roedd Madrid FC yn un o sylfaenwyr Real Federación Española de Fútbol (RFEF) (Cymraeg: Cymdeithas Bêl-droed Brenhinol Sbaen) cyn newid eu henwau i Real Madrid ym 1920 wedi i Brenin Alfonso XIII ganiatau i'r clwb ddefnyddio'r rhagddodiad Real[2].

Ym 1929, roedd Real Madrid yn un o 10 clwb gwreiddiol La Liga gan orffen yn ail i Barcelona[5] ac mae Real, ynghŷd â Barcelona ac Athletic Bilbao wedi parhau ym mhrif adran La Liga byth ers y tymor cyntaf un.

Llwyddiant yn Ewrop

golygu

Mae Real Madrid wedi ennill 10 Cwpan Ewrop/Cynghrair y Pencampwyr UEFA, 2 Cwpan UEFA, 2 Super Cup Uefa yn ogystal â 3 Cwpan Rhyng-gyfandirol a Chwpan Clwb y Byd a cawsant eu hurddo yn Glwb y Ganrif gan FIFA yn 2000[6].

Sefydlwyd Cwpan Pencampwyr Ewrop gan UEFA ym 1955-56 gydag 16 o glybiau'n cystadlu yn y gystadleuaeth gyntaf un. Llwyddodd Real i drechu F.K. Partizan Belgrâd ac A.C. Milan cyn maeddu Stade de Reims yn y rownd derfynol ym Mharc des Princes, Paris[7] ac ennill y cyntaf o bum Cwpan Ewrop yn olynol.

Er i'r clwb ennill eu chweched Cwpan Ewrop ym 1965-66 bu rhaid disgwyl 32 mlynedd tan 1997-98 am eu seithfed tlws gyda Real hefyd yn torri eu henwau ar y tlws ym 1999-2000, 2001-02 a 2013-14.

Anrhydeddau

golygu

Domestig

golygu
  • La Liga
    • Enillwyr (33): 1931–32, 1932–33, 1953–54, 1954–55, 1956–57, 1957–58, 1960–61, 1961–62, 1962–63, 1963–64, 1964–65, 1966–67, 1967–68, 1968–69, 1971–72, 1974–75, 1975–76, 1977–78, 1978–79, 1979–80, 1985–86, 1986–87, 1987–88, 1988–89, 1989–90, 1994–95, 1996–97, 2000–01, 2002–03, 2006–07, 2007–08, 2011–12, 2016-17
  • Copa del Rey
    • Enillwyr (20): 1905, 1906, 1907, 1908, 1917, 1934, 1936, 1946, 1947, 1961–62, 1969–70, 1973–74, 1974–75, 1979–80, 1981–82, 1988–89, 1992–93, 2010–11, 2013–14, 2022/23
  • Supercopa de España
    • Enillwyr (9): 1988, 1989, 1990, 1993, 1997, 2001, 2003, 2008, 2012
  • Copa Eva Duarte (rhaglfaenydd Supercopa de España)
    • Enillwyr (1): 1947
  • Copa de la Liga
    • Enillwyr (1): 1984–85

Rhyngwladol

golygu

Cysylltiadau Cymreig

golygu

Rheolwr

golygu
Enw O I Anrhydeddau
  John Toshack 1 Gorffennaf, 1989 19 Tachwedd, 1990 La Liga 1989-1990
  John Toshack 24 Chwefror, 1999 17 Tachwedd, 1999

Chwaraewr

golygu
Enw O I Anrhydeddau
  Gareth Bale 1 Medi, 2013 Cynghrair y Pencampwyr UEFA 2013-14, 2016-17 Copa del Rey 2013-14,
Cwpan Clwb y Byd FIFA 2014, Super Cup UEFA 2014

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Real Madrid: History". Unknown parameter |published= ignored (help)
  2. 2.0 2.1 "Real Madrid: History". Unknown parameter |published= ignored (help)
  3. "Heddiw Mewn Hanes: 6 Mawrth". Unknown parameter |published= ignored (help)
  4. "Spain - Cup 1905". Unknown parameter |published= ignored (help)
  5. "Heddiw Mewn hanes: 10 Chwefror". Unknown parameter |published= ignored (help)
  6. "FIFA Awards". Unknown parameter |published= ignored (help)
  7. "1955/56: Madrid claim first crown". Unknown parameter |published= ignored (help)
  Eginyn erthygl sydd uchod am Sbaen. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato