Arthur James Johnes

barnwr

Roedd Arthur James Johnes (Maelog) (4 Chwefror, 180923 Gorffennaf, 1871) yn farnwr Cymreig ac awdur.[1]

Arthur James Johnes
Ganwyd 4 Chwefror 1809 Edit this on Wikidata
Garthmyl Edit this on Wikidata
Bu farw 23 Gorffennaf 1871 Edit this on Wikidata (62 oed)
Garthmyl Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaeth barnwr, ysgrifennwr Edit this on Wikidata

CefndirGolygu

Ganwyd Johnes yn y Garthmyl, Sir Drefaldwyn yn blentyn i Edward Johnes a Mary (née Davies) ei wraig. Cafodd ei addysgu yn Ysgol Ramadeg Croesoswallt a Phrifysgol Llundain. Ni fu'n briod.[2]

GyrfaGolygu

Wedi ymadael a'r coleg aeth Johnes i Lincoln's Inn gan gael ei alw i'r bar ar 30 Ionawr 1835. Dechreuodd ymarfer y gyfraith fel drafftsmon ecwiti a thrawsgludwr. Pan sefydlwyd y llysoedd sirol ym 1847, daeth Johnes yn farnwr yr ardal a oedd yn cynnwys siroedd gogledd orllewin Cymru a rhai o siroedd y de, gan barhau yn y swydd hyd 1870.[3]

Gyrfa lenyddolGolygu

Ym 1831 cyhoeddodd Cymdeithas y Cymmrodorion traethawd arobryn Johnes Causes of Dissent in Wales. Rhwng 1834 a 1869 cyhoeddodd lawer o bamffledi yn cefnogi diwygio nifer o agweddau o'r gyfraith megis y gyfraith yn ymwneud a dyledion bychain. Yn 1834 cyhoeddodd gyfieithiadau Saesneg o rhai o gerddi Dafydd ap Gwilym.

Yn y 1830au bu ymgyrch i greu esgobaeth newydd Manceinion (sefydlwyd yn y pendraw ym 1847). Roedd tref Manceinion, a oedd yn rhan o Esgobaeth Caer, wedi tyfu yn aruthrol yn ystod y chwildro diwydiannol. Er mwyn ariannu'r esgobaeth newydd awgrymwyd uno esgobaethau gwledig Bangor a Llanelwy a throsglwyddo cyfoeth un ohonynt i'r esgobaeth newydd. Bu Johnes yn gwrthwynebu'r syniad o uno'r esgobaethau Cymreig a throsglwyddo rhan o'u harian i Loegr.[4] Ym 1841 cyhoeddodd ei wrthwynebiad mewn pamffled dylanwadol Claims of the Welsh dioceses to the funds of the ecclesiastical commissioners, in a letter to Lord John Russell. Ym 1843 cyhoeddodd Philological Proofs of the Original Unity and Recent Origin of the Human Race, llyfr am ddatblygiad ieithoedd.[5]

Roedd yn gyfeillgar efo nifer o offeiriaid llengar Eglwys Loegr megis Walter Davies (Gwallter Mechain) [6], John Jenkins (Ifor Ceri) [7], a Thomas Richards [8], ac yr oedd yn un o hyrwyddwyr a chyfranwr i The Cambrian Quarterly Magazine .

MarwolaethGolygu

Bu farw yn y Garthmyl yn 62 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent eglwys Aberriw.

CyfeiriadauGolygu

  1. "JOHNES, ARTHUR JAMES (1809 - 1871), barnwr llysoedd sirol | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-03-11.
  2. "Johnes, Arthur James [pseud. Maelog] (1809–1871), judge | Oxford Dictionary of National Biography". www.oxforddnb.com. doi:10.1093/ref:odnb/14860. Cyrchwyd 2020-03-11.
  3. Williams, Richard (1894). Montgomeryshire worthies - Arthur James Johnes.
  4. Thomas, David Richard (1874). A history of the diocese of St. Asaph, general, cathedral, and parochial. London: James Parker.
  5. Johnes, Arthur James (2011-02-04). "Philological Proofs of the Original Unity and Recent Origin of the Human Race". www.gutenberg.org. Cyrchwyd 2020-03-11.
  6. "DAVIES, WALTER (' Gwallter Mechain'; 1761 - 1849), offeiriad, bardd, hynafiaethydd, a beirniad | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-03-12.
  7. "JENKINS, JOHN ('Ifor Ceri'; 1770 - 1829), clerigwr a hynafiaethydd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-03-12.
  8. "RICHARDS, THOMAS (1754-1837), clerigwr | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-03-12.