Esgobaeth Bangor

un o esgobaethau'r Eglwys yng Nghymru

Un o'r chwe esgobaeth sy'n ffurfio'r Eglwys yng Nghymru yw Esgobaeth Bangor, a'r hynaf. Gorwedd tiriogaeth yr esgobaeth yng ngogledd-orllewin y wlad, gan ymestyn o Ynys Môn i ran o ogledd Powys; mae'n cyfateb yn fras i diriogaeth teyrnas Gwynedd yn yr Oesoedd Canol. Canolfan yr esgobaeth yw cadeirlan Bangor, sedd esgob Bangor, lle ceir Eglwys Gadeiriol Bangor.

Esgobaeth Bangor
Mathesgobaeth Anglicanaidd Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1558 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.23°N 4.13°W Edit this on Wikidata
Map
Crefydd/EnwadY Cymundeb Anglicanaidd Edit this on Wikidata

Sefydlwyd clas ac eglwys ar safle Bangor heddiw gan Deiniol Sant a'i ddilynwyr tua'r flwyddyn 525. Codwyd clawdd gwiail (bangor) o amgylch y clas, a hynny sy'n cyfrif am enw'r ddinas heddiw. Yn ôl yr Annales Cambriae, yn y flwyddyn 546 gwahoddodd Maelgwn Gwynedd, brenin gogledd Cymru, Sant Deiniol i fod yn esgob ar ei diriogaeth, ac felly y creuwyd esgobaeth hynaf Cymru a gwledydd eraill Prydain. Olynywyd Deiniol gan ragor o seintiau fel Cybi a Seiriol ym Môn a Cadfan yn Nhywyn.

Gyda'i chadeirlan ym 'Mangor Fawr yn Arfon' (Bangor), chwareai'r esgobaeth a'i hesgobion ran bwysig yn hanes Gwynedd yn yr Oesoedd Canol. Daeth newidiadau gyda rheolaeth y Normaniaid ar Dyddewi a chynydd dylanwad Eglwys Rufain. Yn 1143 collodd Bangor ran helaeth ei thiriogaeth yng ngogledd-ddwyrain Cymru pan adferwyd Esgobaeth Llanelwy ac ehangu ei thiriogaeth. Ond arosodd dwy ynys o dir dan reolaeth Bangor, sef cantref Dyffryn Clwyd yn y Berfeddwlad a chantref Arwystli yn nheyrnas Powys.

Yn ddiweddarach collwyd Dyffryn Clwyd i esgobaeth Llanelwy, ond cadwodd Bangor Arwystli ac ychwanegwyd Cyfeiliog a Mawddwy fel bod yr esgobaeth yn ffurfio uned gyfan unwaith eto, ond heb y gogledd-ddwyrain.

Rhaniadau

golygu

Archddiaconiaeth Bangor

golygu

Mae archddiaconiaeth Bangor yn cynnwys archddiaconiaethau canoloesol Bangor a Môn. Mae'n ymrannu'n saith diaconiaeth :

Archddiaconiaeth Meirionnydd

golygu

Mae tiriogaeth archddiaconiaeth Meirionnydd yn cyfateb yn fras i'r hen Sir Feirionnydd gyda Llŷn, Eifionydd ac Arwystli (Powys). Mae'n ymrannu'n bum diaconiaeth :

Gweler hefyd

golygu

Dolenni allanol

golygu