Arwydd amser
Arwydd amser yw arferiad nodiannol a ddefnyddir yn nodiant cerddorol gorllewinol i ddangos nifer y curiadau sydd ym mhob bar a pha werth nodyn sy'n cyfansoddi un curiad.
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/6/64/Common_time_signatures.gif)
Ar sgôr cerddorol, ymddengys yr arwydd amser ar ddechrau darn, yn syth ar ôl yr arwydd cywair (neu'n syth ar ôl yr allwedd os mae'r darn yn C mwyaf neu A lleiaf sydd heb arwydd cywair). Fe ymddengys arwydd amser ynghanol sgôr os newidith y medr ynghanol darn.