Arwyddnodau milwrol
Symbolau addurnol a ddefnyddir gan luoedd milwrol, ar eu gwisg gan amlaf, i ddynodi uned, rheng, sgiliau arbenigol, ac yn y blaen, yw arwyddnodau milwrol.[1]
Math | badge |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Hanes
golyguMae'r angen i wahaniaethu rhwng y gynghreiriad a'r gelyn, a rhwng rhengoedd eich llu eich hun, yn un o wirioneddau rhyfel hyd hanes dynoliaeth. Ar ddechrau'r yr Oesoedd Canol gwisgodd milwyr dillad tebyg, syml i ddangos teyrngarwch i'w marchog neu farwn. Yn ystod y Croesgadau datblygodd system ffurfiol o groesau lliwgar i ddynodi gwledydd gwreiddiol y byddinoedd Cristnogol.[2]