Carte croisade.png
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynol cyfres, gwrthdaro Edit this on Wikidata
Math ymgyrch filwrol Edit this on Wikidata
Dechreuwyd 1095 Edit this on Wikidata
Daeth i ben 1291 Edit this on Wikidata
Yn cynnwys Y Groesgad Gyntaf, Brwydrau'r croesgadwir rhwng 1110 a 1145, Yr ail Croesgad, Brwydrau'r croesgadwir rhwng 1149 a 1189, Y Drydedd Groesgad, Y Bedwaredd Groesgad, Y Pumed Groesgad, Y Chweched Groesgad, Croesgad y Barwniaid, Rhyfel y Lombardiaid, Crwysgad 1101 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Mae'r erthygl hon yn ymwneud â Chroesgadau'r Oesoedd Canol. Am enghreifftiau eraill o'r gair Croesgad (neu Crŵsad), gweler Croesgad (gwahaniaethu) a Croesgadwr.

Roedd y Croesgadau yn gyfres o ymgyrchoedd milwrol a ymladdwyd gan Gristnogion o orllewin Ewrop draw yn y Dwyrain Canol yn yr Oesoedd Canol, sef rhwng diwedd yr unfed ganrif ar ddeg a diwedd y drydedd ganrif ar ddeg. Eu pwrpas oedd adfeddiannu'r Tiroedd Sanctaidd, gan gynnwys lleoedd cysegredig Palesteina oddi ar y Mwslimiaid. Roedd y tiroedd hyn yn bwysig i Gristnogion oherwydd dyma lle'r oedd Cristnogaeth wedi cychwyn, ac ar ddiwedd yr unfed ganrif ar ddeg cyhoeddodd y Pab bod angen achub y Tir Sanctaidd rhag rheolaeth gan Fwslemiaid. At ei gilydd dyma gychwyn cyfnod pan ymladdwyd wyth croesgad bwysig. Bu sawl ymgyrch gan Gristnogion i recriwtio pobl i ymladd yn y Croesgadau a dyma oedd pwrpas taith Gerallt Gymro drwy Gymru yn 1188. Roedd Jeriwsalem yn fan ymladd allweddol rhwng Cristnogion a Mwslimiaid ac yn bwysig i’r ddwy grefydd. Yn ystod yr Oesoedd Canol daeth Jeriwsalem, a mannau cysegredig eraill ym Mhalesteina, yn gyrchfannau pwysig i bererinion Cristnogol gan mai'r rhain oedd y tiroedd lle'r oedd Iesu Grist wedi byw. Cydnabyddir saith croesgad hanesyddol ond mae eu diffinio felly yn tueddu i anwybyddu'r ffaith bod hon yn broses barhaol, gyda'r croesgadau "swyddogol" yn cynrychioli penllanw neu drobwynt yn ei hanes.

CefndirGolygu

Roedd cyfuniad o resymau gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol am y croesgadau;

  • Gwleidyddol – Roedd gobaith y byddai'r croesgadau yn ailuno’r Eglwys Gatholig Orllewinol ac Eglwys Uniongred Ddwyreiniol Groeg
  • Economaidd – Roedd gwladwriaethau masnach yr Eidal eisiau ehangu eu masnach ym Môr y Canoldir ar adeg pan oedd Mwslimiaid yn rheoli llawer o borthladdoedd strategol. Byddai ehangu eu masnach ym Môr y Canoldir yn golygu y byddai gwledydd Ewrop yn medru ehangu eu llwybrau masnach draw i’r Dwyrain Canol lle'r oedd modd iddynt gael mynediad at nwyddau moethus.
  • Cymdeithasol – Roedd y Croesgadau’n cynnig rhyddid cymdeithasol i gymdeithas a oedd wedi ei gorlwytho gan foneddigion heb dir. Roedd hyn o ganlyniad i’r drefn gyntafanedigaeth lle’r oedd y mab cyfreithiol hynaf yn etifeddu holl dir ei rieni. Roedd y Croesgadau’n cynnig cyfle i’r boneddigion hynny heb dir ennill tiroedd yn y Dwyrain Canol. Os oedd bonheddwr yn mynd ar groesgad byddai ei farchogion yn ei ddilyn i’r frwydr fel rhan o’u rhwymedigaethau ffiwdal.
  • Crefyddol – Yn 1095 rhoddodd y Pab Urban II araith ddramatig i Gyngor Clermont yn annog Cristnogion i fynd i ryfel er mwyn achub Jerwsalem rhag rheolaeth Fwslimaidd. Ymateb y dorf a oedd wedi ymgasglu oedd dechrau llafarganu Deus vult, (ewyllys Duw yw hyn). Roedd Cristnogion duwiol yn achub ar y cyfle i fynd ar bererindodau neu deithiau ysbrydol i’r lleoedd a oedd yn gysylltiedig ag Iesu Grist a Christnogaeth. Roedd ‘cymryd y Groes’ yn brawf perffaith o gariad a defosiwn Cristnogol at Dduw. Byddai’r croesgadwyr yn cael maddeuant am eu pechodau gan dreulio llai o amser ym mhurdan (lle byddai pechodau yn cael eu golchi cyn mynd i’r Nefoedd). Roedd adennill ac amddiffyn y Tir Sanctaidd ac amddiffyn Cristnogion (wrth ladd Mwslimiaid) yn cael eu hystyried yn ffyrdd o garu eich cymydog.

Yn gryno, roedd Cristnogion a Mwslimiaid yn cymryd rhan yn eiddgar mewn ymgyrchoedd i ladd a dinistrio ar raddfa enfawr, a hynny’n bennaf er mwyn cred a choncwest grefyddol mewn ymgais i sicrhau goruchafiaeth.[1]

Hanes y CroesgadauGolygu

Pedr y Meudwy yn arwain Croesgad y Bobl

Y Groesgad GyntafGolygu

Prif erthygl - Y Groesgad Gyntaf

Ymladdwyd y Groesgad Gyntaf o 1095 i 1099. Fe'i lansiwyd dan oruchwyliaeth a nawdd y Babaeth. Arweiniodd Pedr y Meudwy fyddin yn erbyn lluoedd Kilij Arslan, swltan Nisé, ond cafodd ei drechu. Y flwyddyn ganlynol cipiodd y Croesgadwyr Nisé a threchwyd Kilij ym mrwydr Dorylé. Roedd 1098 yn flwyddyn gofiadwy i'r goresgynwyr; cipiwyd Edessa ac Antioch a chrëwyd taleithiau Croesgadwrol ynddynt, a chafodd byddin Fwslimaidd dan arweinyddiaeth Karbouka o ddinas Mosul ei threchu. Yn 1099 cipiwyd Caersalem a Thripoli. Yn y Ddinas Sanctaidd ei hun coronwyd y fuddugoliaeth â chyflafan ddychrynllyd, gyda'r trigolion, yn Iddewon, Cristnogion Uniongred a Mwslemiaid yn ddi-wahân, yn cael eu targedu.

Yr Ail GroesgadGolygu

Prif erthygl - Yr Ail Groesgad

Cwymp talaith Edessa i'r Saraseniaid yn 1144 oedd y sbardun i'r Ail Groesgad, aflwyddianus.

Y Drydedd GroesgadGolygu

Prif erthygl - Y Drydedd Groesgad

Cwymp dinas Caersalem i Saladin yn 1187 oedd y sbardun a arweiniodd at gyhoeddi'r Drydedd Groesgad yn 1189. Yr arweinwyr oedd Phylip II Awgwstws o Ffrainc, yr Ymerawdwr Glân Rhufeinig Ffrederic Barbarossa a Rhisiart Lewgalon o Loegr. Parhaodd hyd 1192.

Y Bedwaredd GroesgadGolygu

Prif erthygl - Y Bedwaredd Groesgad

Yr amcan wrth lansio'r Bedwaredd Groesgad (1202 - 1204) oedd cipio'r Aifft, ond roedd yr amgylchiadau yn erbyn hynny, ac yn y diwedd anrheithiwyd un o ddinasoedd pwysicaf y byd Cristnogol gan y Croesgadwyr annisgybledig, sef Caergystennin.

Y Croesgadau OlafGolygu

Prif erthyglau - Y Bumed Groesgad, Y Chweched Groesgad, Y Groesgad Olaf

Methiannau trychinebus fu pob un o'r tair croesgad olaf yn ystod y 13g. Erbyn 1291 roedd caer hollbwysig Acre ym Mhalesteina, amddiffynfa olaf y Croesgadwyr yn y Lefant, wedi cwympo, ac roedd y Croesgadau ar ben.

Arwyddocâd y CroesgadauGolygu

Agorodd y Croesgadau ffenestr newydd i'r Gorllewin ar ddysg y Groegiaid. Daeth llawysgrifau gweithiau gan Aristotlys ac eraill i orllewin Ewrop ac roedd hyn yn sail i'r adfywiad dysg a welwyd yn ystod y Dadeni Dysg. Cyfoethogwyd Ewrop gan fathemateg y Mwslimiaid, yn arbennig ym maes algebra (a oedd yn ddieithr i Ewropeaid cyn hynny). Daeth Ewrop hefyd dan ddylanwad syniadau’r Arabiaid am feddygaeth, gwyddoniaeth, athroniaeth a chelfyddyd. Daeth croesgadwyr â pherlysiau gwerthfawr yn ôl gyda nhw o’r Dwyrain Canol hefyd, sef nytmeg a sinamon, siwgr a chotwm.

CyfeiriadauGolygu

  1. "Datblygiad Rhyfela, tua 1250 hyd heddiw" (PDF). CBAC. Cyrchwyd 28 Ebrill 2020.

Llyfryddiaeth ddetholGolygu

  • Amin Maalouf, Les croisades vues par les Arabes (Paris, 1985; argraffiad newydd, Editions J'ai Lu, Paris, 2003). Golwg ar y Croesgadau o safbwynt yr Arabiaid).