Asbri
Asbri oedd y cylchgrawn pop cyntaf yn y Gymraeg. Cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf gan Gyhoeddiadau Myrddin yng Nghaerfyrddin yn 1969, dan olygyddiaeth Eilyr Davies, Huw Evans a chriw o unigolion yn ardal Caerfyrddin. Daeth y cylchgrawn i ben yn 1978.
Math o gyfrwng | cylchgrawn |
---|---|
Iaith | Cymraeg |
Dechrau/Sefydlu | 1969 |
Cyflwynodd y cylchgrawn wobrau cerddorol 'Pleidlais Asbri'. Ym 1970 enillodd Dafydd Iwan y canwr gorau a'r record orau am "Myn Duw Mi a Wn y Daw". Enillodd Heather Jones y gantores orau, Tony ac Aloma y grŵp neu ddeuawd orau a Meic Stevens yr offerynwr gorau. Roedd y cylchgrawn yn enwog hefyd am gystadleuaeth harddwch 'Miss Asbri', gyda gwobr o fynd ar ddêt gyda Hywel Gwynfryn neu Huw Jones. Canodd Geraint Jarman am "Miss Asbri 69" ar ei albwm Brecwast Astronôt er mai yr enillydd cyntaf oedd Rosalind Lloyd yn 1970 (a aeth ymlaen i fod yn rhan o'r ddeuawd Rosalind a Myrddin).[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cronicl Cerdd - Asbri. Y Selar (Awst 2012). Adalwyd ar 17 Ionawr 2019.