Geraint Jarman
Artist Cymreig sy'n chwarae cerddoriaeth Ska, Roc a Reggae yw Geraint Jarman (ganwyd 17 Awst 1950).[1]
Geraint Jarman | |
---|---|
Ganwyd | 17 Awst 1950 Dinbych |
Label recordio | Cwmni Recordiau Sain, Ankst |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | cyfansoddwr, cerddor, bardd, cynhyrchydd teledu |
Arddull | cerddoriaeth roc, Canu gwerin, reggae |
Priod | Nia Caron, Heather Jones |
Plant | Mared Jarman, Hanna Jarman |
Bywyd cynnar
golyguGanwyd Jarman yn Ninbych ond magwyd yng Nghaerdydd ar ôl i'w deulu symud yno pan oedd yn bedwar oed. Cafodd perfformiad Bob Dylan yng Nghaerdydd yn 1966 ddylanwad parhaol arno.[2]
Gyrfa
golyguCerddoriaeth
golyguSymudodd Geraint i Gaerdydd pan yn bedair, lle cafodd brofiad o ddiwylliannau amrywiol trigolion y Riverside yng Nghaerdydd, gan wrando ar eu cerddoriaeth a'u hofferynau.
Esblygodd ei ddiddordeb mewn cerddoriaeth, a gyda Meic Stevens a Heather Jones ffurfiodd Bara Menyn yn nechrau'r 70au, oedd yn hwb allweddol i'r sîn roc Gymraeg cynnar gyda chaneuon enwog megis Mynd i'r Bala ar y Cwch Banana.
Roedd hi'n 1976 pan ddaeth albwm gyntaf Geraint allan, ac ystyriwyd Gobaith Mawr y Ganrif fel cynnyrch artist oedd am wneud argraff sylweddol ar roc Cymraeg. Eto, anodd fyddai credu yr adeg hynny y byddai'n parhau i gyfansoddi a rhyddhau heb argoel ei fod am stopio ymhell i'r mileniwm newydd. Roedd y drac deitl yn diwn rocaidd hwyliog gwych, "I've Arrived" a "Merched Caerdydd" yn sbort aruthrol bendigedig, gyda "Lawr yn y Ddinas" yn rhoi arlliw galluog i'w ddylanwadau reggae cryf.
Yn 1977 rhyddhaodd Tacsi i'r Tywyllwch, a wnaeth argraff yr un mor drawiadol, yn cynnwys traciau megis yr iasol "Ambiwlans", y ffynci "Dyn Oedd yn Hoffi Pornograffi" a'r clasur "Bourgeois Roc". Erbyn hyn roedd gigiau Jarman yn chwedlonol, a nosweithiau gwallgof yn rhannu llwyfan gyda'r Trwynau Coch, Edward H. Dafis ac eraill yn arferol.
Amhosibl fyddai anwybyddu cyfraniad Tich Gwilym, prif gitarydd y Cynganeddwyr, i'r llwyddiant a'r llewyrch, a byddai crescendo'r noson yn dueddol o orffen gyda'i fersiwn unigol o Hen Wlad Fy Nhadau.
Yn 1978 gwelwyd dyfodiad yr albwm Hen Wlad Fy Nhadau, oedd os rywbeth yn curo ei ymgeision blaenorol gwych - cewri o ganeuon megis "Ethiopia Newydd", "Instant Pundits", "Sgip ar Dân", "Merch Tŷ Cyngor" a "Methu Dal y Pwysa" yn cyfrannu at un o albwms y ganrif heb os.
Mewn llai na blwyddyn roedd albwm arall allan, Gwesty Cymru, a roedd y safon yr un mor eithriadol, gyda chaneuon aruthrol megis "SOS yn Galw Gari Tryfan", "Neb yn Deilwng", "Byth yn Mynd i Redeg Bant" a "Gwesty Cymru" yn mynnu'r glust.
Yn parhau â'r raddfa ffrwythlon daeth Fflamau'r Ddraig allan yn '80, uchafbwyntiau yn cynnwys yr enwog "Rhywbeth Bach", y "Cŵn Hela" iasol a'r dwys bendigedig "Cae'r Saeson", a ni fedrir crybwyll hwnnw heb sôn am y gig Twrw Tanllyd cyntaf a gynhaliwyd yng "Nghae'r Saeson" yn '79 gyda Jarman yn codi'r to.
Yn selio ei statws fel prif artist Cymru gwelwyd traciau arbennig megis y gorffwyll "Crogi Llygoden", yr anthem hapus "Diwrnod i'r Brenin" a'r "Patagonia" epigol oddi ar Diwrnod i'r Brenin" yn 81.
Yn 1983 rhyddhaodd Macsen oedd yn drac sain i ffilm Gareth Wynn Jones o'r un enw, oedd yn cynnwys Siglo ar y Siglen a Cwd, a daeth Enka yn '84, oedd yn brosiect ffilm arall ac yn ddechrau ar ddiddordeb Geraint yn y maes fideo, gyda thraciau gwych megis "Nos Da Saunders" a "Cenhadon Casineb".
O hynny aeth ymlaen i weithio ar y gyfres arloesol a hanfodol Fideo 9 i Criw Byw am bum mlynedd, gan roi stop ar ei gatalog tan 1992 pan recordiwyd Rhiniog ar label Ankst. Gyda sŵn gwahanol a hynod gyfeillgar roedd yn arallgyfeiriad sylweddol a welodd ganlyniadau ffantastig megis Kenny Dalglish, Hei Mr DJ, Llwyth Dyn Diog a mwy. Amhosib fyddai pasio heb roi sylw arbennig i'r emosiynol Strydoedd Cul Pontcanna a'r gwefreiddiol Tracsuit Gwyrdd oedd yn cyfrannu at albwm godidog.
Roedd y safon yr un mor lewyrchus yn Y Ceubal Y Crossbar a'r Quango, oedd yn taro tant gyda thraciau gwych megis "Rhedeg Lawr y Tynal Tywyll", "Animeiddio Goleudy Mewn Rhyfel", "Anifail Brigitte Bardot", gyda Cerys Mathews yn cyfrannu llais cefndir, a'r melys "Enillais Hen Gariad".
Gyda dau albwm mor drawiadol ganddo ar ei newydd wedd doedd ganddo ddim mwy i'w brofi, ond gwelwyd yr albwm annisgwyl Eilydd Na Ddefnyddiwyd yn 1998, oedd yn hannu mwy at reggae tywyll, a mewn gwirionedd nid oedd cweit yn cyrraedd uchelfannau Rhiniog a Ceubal, er fod rhaid nodi Asyn Eira ac yn enwedig Ti'n Gwybod Be Ddudodd Marley fel traciau penigamp.
Yn 2002 rhyddhodd EP Môrladron, CD 5 trac, hawdd i wrando arni, oedd yn cynnwys y gân "Môrladron" - prosiect ar y cyd gyda meistri'r ail-gymysgu Llwybr Llaethog. Yn yr flwyddyn, fe recordiodd Geraint Jarman a'r Cynganeddwyr sesiwn arbennig i raglen C2 Radio Cymru welodd Jarman yn arbrofi gyda synnau latino De America ac yn mynd nôl i'w wreiddiau reggae.
Dros y blynyddoedd diweddar, rhyddhawyd casgliad o ganeuon byw Jarman, Yn Fyw 1977–1981 – Jarman ar ei orau – a'r set gynhwysfawr Atgof Fel Angor, sy'n cynnwys 15 CD! Mae hefyd wedi troi ei law at gyflwyno ei rhaglenni ei hun ar C2 Radio Cymru.
Bu 2011 yn flwyddyn brysur i Geraint Jarman. Rhyddhaodd albwm newydd, Brecwast Astronot ar label Ankstmusik, dychwelodd i Radio Cymru gyda'i gyfres gerddoriaeth, 'Jarman' a chyhoeddodd ei gyfrol hunangofiannol, Twrw Jarman (Gomer).
Derbyniodd Geraint Jarman wobr Cyfraniad Oes yng ngwobrau'r Selar 2017 yn Aberystwyth, a chwarae gig acwstig yn Neuadd Pantycelyn ar y noson cynt ar Chwefror 17. Mewn cyfweliad â Lisa Gwilym ar BBC Radio Cymru dywedodd ei fod yn gweithio ar albym reggae.
Teledu
golyguBu Jarman yn cynhyrchu a chyfarwyddo ar nifer o raglenni cerddoriaeth S4C yn y 1990au gan gychwyn gyda'r sioe arloesol Fideo 9. Daeth y gyfres a sylw hanfodol i gerddoriaeth Cymraeg drwy roi cyfle i fandiau recordio trac sain a fideo proffesiynol.[3][4] Mae wedi cyhoeddi sawl cyfrol o farddoniaeth yn cynnwys Cerbyd Cydwybod (2012, Gwasg Gomer).
Bywyd personol
golyguBu Jarman yn briod am gyfnod gyda Heather Jones ac mae ganddynt un ferch, Lisa Grug.[5] Yn yr 1980au priododd yr actores Nia Caron ac mae ganddynt ddwy ferch, Hanna a Mared.[6]
Cyhoeddwyd ei hunangofiant Twrw Jarman yn 2011.
Disgyddiaeth
golygu- Gobaith Mawr Y Ganrif (1976) Sain
- Tacsi i'r Tywyllwch (1977)
- Hen Wlad fy Nhadau (1978)
- Gwesty Cymru (1979)
- Cerddorfa Wag (1980)
- Fflamau'r Ddraig (1980)
- Diwrnod i'r Brenin (1981)
- Macsen (1983)
- Enka (1984)
- Rhiniog (1992) Ankstmusik
- Y Ceubal Y Crossbar A’r Cwango (1994) Ankstmusik
- Eilydd na Ddefnyddiwyd / Sub Not Used (1998) Sain
- Môrladron (2002) Sain
- Yn Fyw 1977–1981 Live (2002) Ankstmusik
- Sgaffaldiau Bambŵ (2006)
- Brecwast Astronot (2011) Ankstmusik
- Dwyn yr Hogyn Nol (2014) Ankstmusik
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cyfarchiad pen-blwydd o BBC Cymru. BBC Cymru Fyw (17 Awst 2015).
- ↑ Bywgraffiad ar wefan Cwmni Recordiau Sain
- ↑ Hill, Sarah (2007) 'Blerwytirhwng?' the Place of Welsh Pop Music, Ashgate, ISBN 978-0754658986, t. 67, 76, 124, 126
- ↑ Owens, David (2000) Cerys, Catatonia And The Rise Of Welsh Pop, Ebury Press, ISBN 978-0091874124
- ↑ Pwy Dorrodd Galon Heather Jones, Golwg, 1 Tachwedd 2007
- ↑ Mainwaring, Rachel. Living with Stargardst disease: How a Welsh woman is determined to live life to the full despite her deteriorating eyesight , Wales Online, 15 Rhagfyr 2013. Cyrchwyd ar 15 Chwefror 2014.