Asid asetig (defnydd meddygol)

Defnyddir asid asetig, a elwir hefyd yn finegr, fel meddyginiaeth i drin nifer o gyflyrau gwahanol. Gellir ei ddefnyddio i drin heintiau corn y glust. Gosodir ar stribyn clust. Fel hylif, fe'i defnyddir i lifolchi'r bledren er mwyn trin achosion o gathetr wrinol ac felly hefyd atal heintiau neu rwystrau mewnol. Mae modd ei ddefnyddio ar ffurf gel i addasu'r ph o fewn y fagina. Gosodir y feddyginiaeth hefyd ar y groth i gynorthwyo yn y broses o ganfod cancr ceg y groth yn ystod sgrinio.[1]

Asid asetig
Enghraifft o'r canlynoltherapi, meddyginiaeth, cyffur hanfodol Edit this on Wikidata

Sgil effeithiau golygu

Gellir arwain at rai sgil effeithiau, gan gynnwys ymdeimlad o losgi yn y man fe'i gosodwyd. Mewn rhai achosion prin, gellir arwain at ymatebiad alergol. Ni argymhellir defnyddio'r feddyginiaeth mewn clustiau a thwll yn nrwm y glust. Gweithia'n erbyn achosion heintiau bacteriaidd a ffwngaidd tu allan i'r glust.[2]

Hanes golygu

Defnyddiwyd asid asetig fel triniaeth feddygol yng nghyfnod yr Hen Aifft. Ymddangosa ar Restr Meddyginiaethau Hanfodol Sefydliad Iechyd y Byd, cofnod o'r meddyginiaethau mwyaf effeithiol a diogel sydd eu hangen mewn system iechyd. Mae asid asetig ar gael fel meddyginiaeth generig. Yn yr Unol Daleithiau, mae cwrs triniaeth a pharatoadau yn y glust yn costio llai na 25 o ddoleri. Yn gyffredinol, defnyddir asid asetig fel triniaeth ar gyfer heintiau clust allanol yn y byd datblygol yn hytrach na'r byd datblygedig.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. Fokom-Domgue, J; Combescure, C; Fokom-Defo, V; Tebeu, PM; Vassilakos, P; Kengne, AP; Petignat, P (3 Gorffennaf 2015). "Performance of alternative strategies for primary cervical cancer screening in sub-Saharan Africa: systematic review and meta-analysis of diagnostic test accuracy studies.". BMJ (Clinical research ed.) 351: h3084. PMC 4490835. PMID 26142020. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=4490835.
  2. "Acetic Acid - FDA prescribing information, side effects and uses". www.drugs.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 Ionawr 2017. Cyrchwyd 14 Ionawr 2017. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  3. Desai, Bobby; Desai, Alpa (2016). Primary Care for Emergency Physicians (yn Saesneg). Springer. t. 36. ISBN 9783319443607. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-01-16. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)


Cyngor meddygol

Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir.

Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!