Meddyginiaeth

sylwedd cemegol a ddefnyddir mewn diagnosis, iachâd, triniaeth, neu atal clefyd

Sylwedd cemegol a ddefnyddir mewn diagnosis, iachâd, triniaeth, neu i atal clefyd yw meddyginiaeth, moddion neu ffisig (hefyd cyffur meddyginiaethol neu gyffur fferyllol).

Meddyginiaeth
Mathcyffur, pharmaceutical product Edit this on Wikidata
Rhan opharmacy Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Defnyddir y System Ddosbarthiad Cemegol Therapiwtig Anatomegol (ATC), a reolir gan Ganolfan Gydweithiol Cyfundrefn Iechyd y Byd (WHO) dros Fethodoleg Ystadegau Cyffuriau, i ddosbarthu cyffuriau meddyginiaethol ers 1976.

Meddyginiaethau traddodiadol ac amgen golygu

  • Ffisig ysgall

Hawdd iawn yw anghofio cymaint oedd ein cyndeidiau yn dibynnu ar feddyginiaethau llysieuol tan yn gymharol ddiweddar:

13th. I continue taking the Elixir thrice this day, in the morn - fasting, at Noon, and 5 in the Evening, from 30 to 40 drops at a time, & drink a pint and a half of Carduus [hwn yw’r gair Lladin am ysgall] Whey hot every night going to bed.[1]
  • Opiwm

Syndod efallai yw gweld cyfeiriadau mynych at laudenum yng nghefn gwlad Cymru (opiad neu gyffur cysgu yn seiliedig ar y pabi ac yn cael ei ddefnyddio llawer yn Oes Fictoria yw hwn) ac ‘obadildo’ (beth bynnag oedd hwnnw!) yng nghefn dyddiadur William Jones, Moelfre, Aberdaron ar gyfer y flwyddyn 1897.[2]
Arferai’r beirdd gymryd laudenum i hybu’r awen - beirdd fel Samuel Taylor Coleridge. Cafodd Coleridge ei styrbio ynghanol cyfansoddi ei gerdd enwog Kubhla Khan dan ddylanwad y cyffur hwn ac erbyn iddo ddychwelyd at y gwaith roedd yr awen wedi diflannu. Bu hen regi mae’n siŵr!
Sylwodd Brenda Jones, trawsgrifydd dyddiaduron William Jones, bod ei ysgrifen wedi mynd yn flêr o Chwefror ymlaen [1]. Effaith y ‘cyffuriau’ hyn o bosib?

  • Moddion at anhwylderau eraill

Mae William Jones yn nodi moddion i wella anhwylderau:

  • Cymhorth i wella Ffliw Rwsia
Ammoniated tincture of quinine ½ oz
Essence of Peppermint ¼ oz
Bromide of ammonium ½ oz
Spirit of sweet nitre ½ oz
Simple syrup made by boiling 1 lb lump sugar in half peint of water 1oz
Ysgydwer y cymysgedd yn achlysurol hyd nes byddo y cyfan wedi toddy Cymerer llond llwy de mewn dwy lond llwy fwrdd o ddwfr oer bob awr hyd nes cael rhyddhad Prysurir y gwellhad drwy ysbrinclo ychydig o menthol crystals ar lwy ar shovel boeth a thynu yr ager i fewn gyda’r anadl (1891).


Yn ôl hysbyseb yn ei ddyddiadur, dyma oedd ar gael at anhwylderau yn 1880:[3]

  • Cynghor at y Gravel
½ oz Balsam Cabtinty
½ oz Tincture Rubarb
1 oz Spirit Nitre
Dwy lond llwy de dair gwaith yn y dydd mewn llond glass gwin o lefrith.


Mathau golygu

    Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Cyfeiriadau golygu

Chwiliwch am meddyginiaeth
yn Wiciadur.
  1. Dyddiadur William Bulkeley, Brynddu, Llanfechell, Môn (gyda chaniatad Adran Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor)
  2. Dyddiadur William Jones, yn Nhywyddiadur Llên Natur
  3. Bwletin Llên Natur rhifyn 58