Asid nitrig

cyfansoddyn cemegol

Mae asid nitrig (HNO3), hefyd yn cael ei adnabod fel aqua fortis (nitric acid) yn Saesneg. Mae'n asid cyrydol a thocsig iawn. Mae'n asid cryf a gall achosi llosgiadau enbyd i'r croen a'r cnawd. Soniwyd am greu asid nitrig yn gyntaf tua'r flwyddyn 800 OC gan y fferyllydd o Bersia Jabir ibn Hayyan (Geber).[1]

Asid nitrig
Enghraifft o'r canlynolmath o endid cemegol Edit this on Wikidata
Mathmineral acid, nitrogen oxoacid, monoprotic acid Edit this on Wikidata
Màs62.995643 uned Dalton Edit this on Wikidata
Fformiwla gemegolHno₃ edit this on wikidata
Yn cynnwysocsigen, nitrogen, hydrogen Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Yn ei gyflwr puraf, mae'r asid hwn yn gwbwl ddi-liw, ond wrth heneiddio, gall droi'n felyn golau oherwydd y nitrogen ocsid. Pan fo hylif yn cynnwys dros 86% o asid nitrig, mae'n cael ei alw'n 'fygdarth' ('fuming' yn Saesneg) gyda gwawr goch neu wyn iddo - yn dibynnu faint o nitrogen deuocsid sydd ynddo.

Cyfeiriadau golygu

  1. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-12-01. Cyrchwyd 2008-10-24.