Teyrn y Proto-Bwlgariaid yn ail hanner y seithfed ganrif oedd Asparukh (tua 641 – tua 702). Credir iddo sefydlu Teyrnas Gyntaf Bwlgaria yn 681. Ar ôl i'r Khazariaid ei yrru allan o ardal gorllewin Wcrain, daeth Asparukh â llu o Broto-Fwlgariaid dros Afon Donwy ym mlynyddoedd cynnar yr 670au, gan anheddu de Bessarabia neu ogledd Dobrudzha. Mewn cynghrair â llwythi Slafonaidd lleol, trechodd luoedd yr Ymerodraeth Fysantaidd o dan Cystennin IV yn 680. Gwthiodd y Bwlgariaid a'r Slafiaid ymlaen i gipio Moesia. Roedd y Bysantiaid yn gorfod gofyn am delerau heddwch yn 681, gan dalu teyrnged flynyddol. Mae haneswyr yn tueddu i weld yn hyn cydnabyddiaeth Teyrnas Gyntaf Bwlgaria, gwladwriaeth newydd â phoblogaeth lethol Slafonaidd â dosbarthiad llywodraethol Proto-Bwlgaraidd (Tyrcig).

Asparukh


Khaniaid, tsariaid, tywysogion a brenhinoedd Bwlgaria

Teyrnas gyntaf
Asparukh | Tervel | Kormisosh | Sevar | Vinekh | Telets | Sabin | Umor | Toktu | Pagan | Telerig | Kardam | Krum | Omurtag | Malmir | Pressian | Boris I | Vladimir | Simeon I | Pedr I | Boris II | Roman | Samuil | Gavril-Radomir | Ivan-Vladislav

Ail deyrnas
Petar II | Ivan Asen I | Kaloyan | Boril | Ivan Asen II | Kaliman I | Miahil II Asen | Kaliman II | Konstantin Asen | Ivailo | Ivan Asen III | Georgi Terter I | Smilets | Chaka | Todor Svetoslav | Georgi Terter II | Mikhail Shishman | Ivan Stefan | Ivan Aleksander | Ivan Shishman | Ivan Stratsimir

Trydedd deyrnas
Alexander | Ferdinand | Boris III | Simeon II