Ferdinand I, Tsar Bwlgaria
Tywysog ac wedyn Brenin (Tsar) Bwlgaria oedd Ferdinand I (ganed Tywysog Ferdinand Maximiilan Karl Leopold Maria Saxe-Coburg-Gotha) (26 Chwefror 1861 - 10 Medi 1948). Detholwyd yn dywysog gan Gynulliad Cenedlaethol Bwlgaria ar 7 Gorffennaf 1887, deng mis ar ôl ymddiorseddiad ei ragflaenydd, Tywysog Alexander. Gwelwyd gwaethygiad ym mherthynas Bwlgaria a Rwsia yn ystod blynyddoedd cynnar ei deyrnasiad o dan ei brif weinidog cyntaf Stefan Stambolov. Ar ôl ymddiswyddiad Stambolov ym mis Mai 1894, daeth ymgymodi â Tsar Niclas II, gan arwain at gydnabyddiaeth Ferdinand fel tywysog gan Rwsia a'r Pwerau Mawr ym mis Chwefror 1896. Daeth Ferdinand yn frenin (tsar) Bwlgaria ar ôl datganiad annibyniaeth lawn o'r Ymerodraeth Ottoman ar 22 Medi/5 Hydref 1908. Roedd yn frenin yn ystod Rhyfel Cynta'r Balcanau, pryd chwalwyd grym yr Ymerodraeth Ottoman yn y Balcanau, ac yn ystod Ail Ryfel y Balcanau, pryd collodd Bwlgaria'r enillion tiriogaethol a wnaeth yn ystod y rhyfel cyntaf i Serbia a Gwlad Groeg. Ar ôl i Fwlgaria gael ei threchu gan fyddinoedd y Gynghrair yng Ngwlad Groeg yn y Rhyfel Byd Cyntaf, ymddiorseddodd Ferdinand ar 3 Hydref 1918. Olynwyd gan ei fab hynaf, Boris. Bu farw yn Coburg, yr Almaen, ar 10 Medi 1948, pum mlynedd ar ôl ei fab. Fe'i claddwyd yno yn Eglwys Babyddol Awstin Sant.
Ferdinand I, Tsar Bwlgaria | |
---|---|
Ganwyd | Ferdinand Maximilian Karl Leopold Maria von Sachsen-Coburg und Gotha 26 Chwefror 1861 Fienna |
Bu farw | 10 Medi 1948 Coburg |
Dinasyddiaeth | Bwlgaria |
Galwedigaeth | pryfetegwr, botanegydd, llenor, swyddog milwrol, person milwrol, llywodraethwr, adaregydd, swolegydd, casglwr swolegol |
Swydd | Tsar of Bulgaria |
Tad | Tywysog Awst, 3ydd Tywysog Koháry |
Mam | Y Dywysoges Clémentine, Tywysoges Koháry |
Priod | Princess Marie Louise of Bourbon-Parma, Queen Eleonore of Bulgaria, Alžbeta Brezáková |
Plant | Boris III o Fwlgaria, Prince Kyril, Prince of Preslav, Princess Eudoxia of Bulgaria, Princess Nadejda of Bulgaria |
Llinach | House of Saxe-Coburg and Gotha-Koháry, House of Saxe-Coburg and Gotha-Koháry (Bulgaria) |
Gwobr/au | Pour le Mérite, Marchog Urdd y Cnu Aur, Marchog Uwch Groes Urdd Maria Theresa, Marchog Urdd Sant Alexander Nevsky, Urdd yr Eryr Du, Marchog Croes Fawr Urdd Frenhinol Victoria, Urdd Sant Anna, Dosbarth 1af, Urdd yr Eryr Gwyn, Urdd Santes Anna, Dosbarth 1af, Urdd Sant Vladimir, Dosbarth 1af, Urdd Sant Andreas, Urdd Dewder, Urdd Alecsander, Urdd Teilyngdod Sifil, Order of Military Merit, honorary citizen of Coburg, Urdd Sant Steffan o Hwngari, Military Order of Max Joseph, Urdd y Cnu Aur, Uwch Swyddog y Lleng Anrhydedd, Y Groes Haearn, Urdd y Cyfarchiad Sanctaidd, Military Merit Cross, Urdd yr Eliffant, Order of Saints Cyril and Methodius Equal-to-apostles, Urdd Sant Vladimir, Urdd Sant Stanislaus, Order of Maria Theresa I |
llofnod | |
Khaniaid, tsariaid, tywysogion a brenhinoedd Bwlgaria |
Teyrnas gyntaf Ail deyrnas Trydedd deyrnas |