Asiantaeth newyddion Americanaidd ryngwladol yw Associated Press (byrfodd arferol: AP). Fe'i sefydlwyd yn 1846 yn Ninas Efrog Newydd lle ceir y pencadlys o hyd. Mae'n asiantaeth gydweithredol ddi-elw sy'n perthyn i'r papurau newydd, gorsafoedd radio a theledu yn yr Unol Daleithiau sy'n cyfrannu straeon iddi ac sy'n defnyddio deunydd newyddion a ysgrifennir gan staff AP. Mae nifer o bapurau ac asiantaethau eraill y tu allan i UDA yn danysgrifwyr i AP, ac yn talu ffi i ddefnyddio deunydd AP heb gyfrannu eu hunain i'r asiantaeth.

Associated Press
Math
Asiantaeth newyddion
Math o fusnes
menter gydweithredol
Diwydiantcyfrwng newyddion, y diwydiant cyfryngau
Sefydlwyd22 Mai 1846
PencadlysDinas Efrog Newydd
Cynnyrchnewyddion
Is gwmni/au
Associated Press Television News
Lle ffurfioDinas Efrog Newydd
Gwefanhttps://ap.org/, https://apnews.com Edit this on Wikidata


Logo Associated Press
Erthygl am yr asiantaeth newyddion yw hon. Gweler hefyd Ap (gwahaniaethu).

Yn 2005, roedd newyddion gan AP yn cael ei gyhoeddi a'i ailgyhoeddi gan dros 1,700 papur newydd, yn ogystal â thua 5,000 o ddarlledwyr radio a theledu. Ceir mwy na 10 miliwn delwedd yn llyfrgell ffotograffau AP. Mae'n rhedeg 243 swyddfa newyddion gan wasanaethu 121 o wledydd, gyda staff o sawl gwlad o gwmpas y byd.

Dolenni allanol golygu


  Eginyn erthygl sydd uchod am gwmni Americanaidd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.