Math o atalnod yw'r atalnod llawn sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer nifer o ddibenion. Y defnydd mwyaf cyffredin ohono yw i nodi diwedd brawddeg ddatganiadol (yn hytrach na chwestiwn neu ebychiad), a'r defnydd hwn sy'n rhoi iddo'i enw fel atalnod llawn.

Defnyddir yr atalnod llawn yn aml hefyd i nodi bod llythrennau wedi'u hepgor (neu mewn elipsis, "..." i nodi geiriau sydd wedi'u hepgor). Gellir ei osod ar ôl llythyren gyntaf i gynrychioli enw, neu weithiau ar ôl pob llythyren unigol mewn llythrenw, er enghraifft, "C.Ff.I". Mae'r dull hwn o ysgrifennu llythrenwau yn dirywio, fodd bynnag, ac mae wedi dod yn dderbyniol i sillafu llawer o lythrenwau hebddynt (ee UDA. Defnyddir atalnod llawn yn aml hefyd ar ddiwedd byrfoddau fel Parch. am 'Parchedig'.

Mae'r atalnod yn cael ei ddefnyddio at nifer o ddibenion mewn mathemateg a chyfrifiadura hefyd, lle gellir ei alw'n bwynt (byr ar gyfer pwynt degol) neu ddot.[1] Weithiau gelwir y glyff pwynt llawn yn ddod gwaelodlin oherwydd, yn deipograffyddol, mae'n ddot ar y gwaelodlin. Mae'r term hwn yn ei wahaniaethu oddi wrth y rhyngnot (dot sydd wedi'i godi).[1][2] Er bod atalnod llawn yn dechnegol yn berthnasol i'r pwynt llawn yn unig pan y'i defnyddir i orffen brawddeg, nid yw'r gwahaniaeth - sy'n gallu cael ei olrhain yn ol i o leiaf 1897[3] - yn cael ei gynnal gan bob canllaw a geiriadur modern.

Mae symbol yr atalnod llawn yn deillio o'r atalnodiad Groeg a gyflwynwyd gan Aristophanes Byzantium yn y 3g CC. Yn ei system, roedd cyfres o ddotiau oedd yn cael eu dehongli ar sail eu lleoliad. Roedd atalnod llawn ar ddiwedd ymadrodd neu syniad yn cael ei farcio â dot uchel, sef y stigmḕ teleía ( στιγμὴ τελεία neu'r "dot terfynol". Roedd "dot canol" ⟨·⟩, y stigmḕ mésē ( στιγμὴ μέση , yn dynodi rhaniad mewn syniad ac yn cynrhychioli anadl hirach (semi-colon yn ei hanfod) a'r dot isel ⟨.⟩, a elwir yn hypostigmḕ ( ὑποστιγμή neu "is-ddot", yn dynodi rhaniad mewn syniad a oedd yn dynodi anadl fyrrach (coma yn ei hanfod).[4] Yn ymarferol, roedd ysgrifenwyr yn defnyddio'r dot terfynol yn bennaf; nid oedd y lleill yn cael eu defnyddio eto ac fe'u disodlwyd yn ddiweddarach gan symbolau eraill. O'r 9g, dechreuodd yr atalnod llawn ymddangos fel marc isel yn lle un uchel; oherwydd dyfodiad argraffu yng Ngorllewin Ewrop, daeth y marc isel yn rheolaidd a thrwy hynny y daeth yn gyffredinol.[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Williamson, Amelia A.. "Period or Comma? Decimal Styles over Time and Place". Science Editor 31: 42–43. http://www.councilscienceeditors.org/files/scienceeditor/v31n2p042-043.pdf. Adalwyd 21 September 2013.
  2. Truss, Lynn (2004). Eats, Shoots & Leaves: The Zero Tolerance Approach to Punctuation. New York: Gotham Books. t. 25. ISBN 1-59240-087-6.
  3. The Punctuation Points. 24. August 1897. p. 278. https://books.google.com/books?id=hVc2AQAAMAAJ&pg=PA278. Adalwyd 24 December 2013.
  4. 4.0 4.1 Nicolas, Nick. "Greek Unicode Issues: Punctuation Archifwyd 2012-08-06 yn Archive.is". 2005. Accessed 7 Oct 2014.