Brawddeg
Uned ieithyddol mewn iaith naturiol yw brawddeg, mynegiad sy'n cyfleu gosodiad, gofyniad neu orchymyn.[1]
Yn y rhan fwyaf o ieithoedd,[2] mae'n rhaid i frawddeg gynnwys berf derfynol, ond nid yw hyn yn wir yn y Gymraeg. E.e. "Hir pob aros."
Rhannau'r FrawddegGolygu
Mewn cymal, ceir goddrych a thraethiad; gall fod yn gymal annibynnol neu ddibynnol. Mae'n brawddegau syml yn cynnwys dim ond un cymal (a hwnnw'n annibynnol), ond mewn brawddegau eraill ceir sawl cymal.