Dagr seremonïol gyda llafn daufiniog yw'r Athamé neu Athame, un o sawl offeryn a ddefnyddir i ddewino yn Wica, neo-baganiaeth a thraddodiadau eraill yr Oes Newydd. Mae cyllell gyda llafn daufiniog o'r enw arthame yn ymddangos yn y Clavicula Salomonis, sydd yn llyfr hudol o'r Oesoedd Canol.[1]

Athamé
Enghraifft o'r canlynolweapon functional class Edit this on Wikidata
Mathcold weapon, ceremonial weapon Edit this on Wikidata
Fersiwn o Athamé, gyda llafn dur a charn derwen-gors. Ceir delwedd o'r Lleuad Driphlyg yn arian arno.

Mae'r Athamé yn ymddangos mewn ysgrifen Gerald Gardner yn y 1950au; dyn a boblogeiddiodd Wica (sydd yn grefydd neo-baganaidd) oedd Gardner. Yn ôl rhai sy'n ymarfer Wica, yr offeryn defodol mwyaf pwysig yw'r Athamé, oherwydd caiff ei defnyddio hi mewn llawer o arferion a defodau ysbrydol, ond ni ddefnyddir hi byth i dorri'r corff.[2]

Dywed Philip Heselton[3] oherwydd diddordeb a medrusrwydd Gardner mewn cleddyfau a chyllyll hen ffasiwn, ac yn enwedig y cyllyll kris hudol o Falaysia ac Indonesia, y ceir pwyslais canolog ar yr Athamé yn Wica.[4]

Cyfeiriadau

golygu
  1. MacGregor Mathers, S. Liddell (ed.) The Key of Solomon (Clavicula Salomonis) Wedi'i ddiwygio gan Peterson, Joseph H. (1999, 2004, 2005). Ar gael yma
  2. Gardner, Gerald. Witchcraft Today (1954) Llundain: Rider. Tudalen 150
  3. Heselton. Wiccan Roots
  4. Gardner, Gerald. Keris and other Malay weapons (1936) Singapôr: Progressive Publishing Company