Wiciad o Loegr, awdur, ac anthropolegwr and archaeolegydd amaturaidd oedd Gerald Brosseau Gardner (13 Mehefin 1884 – 12 Chwefror 1964), a adnabu hefyd gan ei enw crefft Scire. Roedd e'n ganolog wrth ddatblygiad y grefydd baganaidd fodern, Wica, a dod â hi i sylw'r cyhoedd drwy ysgrifennu nifer o destunnau crefyddol pwysig ynghylch Wica. Sefydlodd hefyd Wica Gardneraidd.

Gerald Gardner
GanwydGerald Brosseau Gardner
13 Mehefin 1884
Blundellsands, Lloegr
Bu farw12 Chwefror 1964(1964-02-12) (79 oed)
ar long, ar y ffordd i Diwnis
Gwaith
  • Plannwr te a rwber
  • swyddog tollau
  • offeiriad Wicaidd
  • ysgrifennwr
  • nofelydd
PriodDorothy Rosedale

Ganed Gardner i mewn i deulu dosbarth canol uwch yn Blundellsands, Swydd Gaerhirfryn, treuliodd Gardner lawer o'i blentyndod dramor ym Madeira. Ym 1900, symudodd i Geylon drefedigaethol. Ym 1911, symudodd i Falaya, lle gweithiodd yn was sifil. Yno, datblygodd ddiddordeb yn y bobl frodorol. Ysgrifennodd draethodau amdanynt, gan gynnwys llyfr am eu hymarferion hudol.

Ar ôl ei ymddeoliad ym 1936, teithiodd i Gyprus lle ysgrifennodd ei nofel gyntaf A Goddess Arrives cyn dychwelyd i Loegr. Ymgartrefodd ar bwys y Fforest Newydd, lle ymunodd â grŵp yr ocwlt o'r enw Cymrodoriaeth Crotona Urdd Rosgroesog. Oherwydd y grŵp hwn, cwrddodd â chwfen y New Forest ac ynydwyd fe i mewn i'r gwfen hon ym 1939 yn 55 oed. Portreadodd Gardner y gwfen yn oroesiad o "gwlt y gwrachod" damcaniaethol. Trafododd Margaret Murray yr hypothesis hwn yn ei llyfrau, ac mae'r hypothesis hwn bellach yn wrthbrofedig. Yn ôl Gardner, roedd defodau'r gwfen yn anghyflawn eu natur, felly benthycodd syniadau oddi wrth y Seiri Rhyddion, dewiniaeth ddefodol, a gwaith Aleister Crowley er mwyn creu Wica Gardneraidd.

Symudodd Gardner i Lundain ym 1945, a daeth yn benderfynol o ledaenu'i draddodiad newydd a chafodd e gryn sylw oddi wrth y cyfryngau, ac ysgrifennodd am hyn yn ei lyfrau High Magic's Aid (1949), Witchcraft Today (1954), a The Meaning of Witchcraft (1959). Sefydlodd gwfen o'r enw Cwfen Bricket Wood, ac ynydodd nifer o Archoffeiriadesau, gan gynnwys Doreen Valiente, Lois Bourne, Patricia Crowther ac Eleanor Bone. Yn sgil, lledaenodd Wica Gardneraidd drwy Brydain, ac wedyn Awstralia a'r Unol Daleithiau yn y 1950au hwyr a'r 1960au cynnar. Gweithiodd Gardner â Cecil Williamson am gyfnod gymharol fach, a daeth Gardner yn gyfarwyddwr amgueddfa Williamson, Amgueddfa Swyngyfaredd a Gwrachyddiaeth ar Ynys Manaw nes ei farwolaeth. Oherwydd ei gyfraniadau i Baganiaeth fodern a'r mudiad ocwlt ehangach, adwaenir fe yn "Dad Wica".

Dolenni allanol

golygu