Athanasius Kircher
Ysgolhaig o'r Almaen ac offeiriad o Iesuwr oedd Athanasius Kircher (2 Mai 1601 – 27 Tachwedd 1680) sydd yn nodedig fel polymath.
Athanasius Kircher | |
---|---|
Ganwyd | 2 Mai 1602 Geisa |
Bu farw | 27 Tachwedd 1680, 28 Tachwedd 1680, 1680 Rhufain |
Dinasyddiaeth | yr Ymerodraeth Lân Rufeinig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ieithydd, mathemategydd, eifftolegydd, cerddolegydd, damcaniaethwr cerddoriaeth, polymath, dyfeisiwr, offeiriad Catholig, seryddwr, biolegydd, archeolegydd, academydd, llenor, ffisegydd, daearegwr, arbenigwr mewn llosgfynyddoedd, museoleg, cyfansoddwr, hanesydd, naturiaethydd, dwyreinydd, diwinydd Catholig, athronydd |
Swydd | royal confessor |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Turris Babel, China Illustrata |
Ganed ef yn Geisa (a leolir bellach yn Thüringen, yr Almaen), yn Abadaeth Fulda, un o esgob-dywysogaethau'r Ymerodraeth Lân Rufeinig. Dysgodd yr ieithoedd Roeg ac Hebraeg yn ysgol yr Iesuwyr yn Fulda, ac astudiodd y gwyddorau a'r dyniaethau yn Paderborn, Cwlen, a Koblenz cyn iddo gael ei ordeinio ym Mainz ym 1628. Ar un pryd fe'i penodwyd yn athro ym Mhrifysgol Würzburg. Ffoes yr Almaen i osgoi'r Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain, a chafodd sawl swydd academaidd yn Avignon. Ymsefydlodd yn Rhufain ym 1634, ac yno y bu am y rhan fwyaf o'i oes. Bu farw yn Rhufain yn 79 oed.[1]
Deallusyn dylanwadol oedd Kircher yn ystod ei oes, a daeth yn enwog fel dyn hollddysgedig: fe'i gelwir yn aml yn "ddyn olaf y Dadeni". Darllennodd yn awchus am ystod eang o bynciau, gan gynnwys archaeoleg, ieithoedd hynafol, daearyddiaeth, seryddiaeth, mathemateg, ffiseg, meddygaeth, opteg, acwsteg, a meddygaeth. Ysgrifennodd ryw 40 o lyfrau a 2000 o lawysgrifau a llythyrau sy'n goroesi. Nodir ei weithiau ysgrifenedig gan wyddoniaduraeth llawn darluniadau a diagramau. Yn ogystal â'i ddarlleniadau a thraethodu ysgolheigaidd traddodiadol, ceisiodd arsylwi ar y byd gyda synhwyrau ei hun: mewn esiampl enwog, cafodd ei ostwng ar ben rhaff i mewn i geudwll Vesuvius er mwyn sbïo ar y tu mewn i losgfynydd yn fuan wedi echdoriad. Casglodd nifer fawr o hynodbethau o fyd natur, sydd yn parhau heddiw fel Amgueddfa Kircher yn Rhufain. Fe'i ystyrir weithiau yn sefydlwr Eifftoleg am iddo geisio (heb lwyddiant) darllen yr hieroglyffau. Efe hefyd oedd y cyntaf i saernïo telyn eolaidd, offeryn cerdd a fyddai'n boblogaidd hyd at ddiwedd y 19g. Fodd bynnag, seiliwyd nifer o'i syniadau ar gamdybiaethau a gwybodaeth ail-law, ac mae diffyg y dull gwyddonol modern yn amlwg yn ei waith. Ni gwerthfawrogir Kircher am ei ddarganfyddiadau na damcaniaethau gwreiddiol, ond yn hytrach am ei frwdfrydedd dros ddysg a'i ymdrechion i arloesi ysgolheictod rhyngddisgyblaethol. Ar sail ei enwogrwydd, priodolir nifer o ddyfeisiau iddo ar gam, gan gynnwys yr hudlusern a'r microsgop.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Athanasius Kircher. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 3 Mehefin 2023.