Dinas yn ne-ddwyrain Ffrainc sy'n fwyaf enwog oherwydd iddi fod yn ganolfan rhai Pabau a Gwrth-Babau yn y Canol Oesoedd yw Avignon (Provençal: Avinhon neu Avignoun). Hi yw prifddinas département Vaucluse. Roedd y boblogaeth yn 2004 yn 89,300 yn y ddinas ei hun, ac roedd 290,466 yn yr ardal ddinesig yng nghyfrifiad 1999.

Avignon
Mathcymuned, dinas Edit this on Wikidata
Poblogaeth90,330 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethCécile Helle Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Siena, Wetzlar, Diourbel, Tortosa, Ioannina, New Haven, Orvieto, Colchester, Tarragona, Ceccano, Alcañiz, Diourbel Region, Guanajuato Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Ffrangeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sirarrondissement of Avignon, Canton of Avignon-Est, Canton of Avignon-Nord, Canton of Avignon-Ouest, Canton of Avignon-Sud, Vaucluse, Grand Avignon Edit this on Wikidata
GwladBaner Ffrainc Ffrainc
Arwynebedd64.91 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr10 ±1 metr, 122 ±1 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Rhône, Durance Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaBarbentane, Châteaurenard, Noves, Rognonas, Villeneuve-lès-Avignon, Les Angles, Caumont-sur-Durance, Morières-lès-Avignon, Le Pontet, Sorgues Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau43.9486°N 4.8083°E Edit this on Wikidata
Cod post84000, 84140 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Avignon Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethCécile Helle Edit this on Wikidata
Map
Canol hanesyddol Avignon a'r Palais des Papes

Saif y ddinas ar lan afon Rhône, ychydig filltiroedd yn uwch na'i chymer gydag afon Durance. Sefydlwyd hi gan lwyth Celtaidd y Cavares, ac yn ddiweddarch roedd ymsefydlwyr Phocaeaidd o Massilia (Marseilles heddiw) yma. Dan y Rhufeiniaid, fel Avenio, roedd yn un o ddinasoedd mwyaf llewyrchus Gallia Narbonensis. Cyhoeddodd Avignon ei hun yn weriniaeth annibynnol ar ddiwedd y 12g, ond yn ystod yr ymgyrch yn erbyn yr Albigensiaid (dilynwyr athrawiaeth y Cathar), cipiwyd y ddinas ar 13 Medi 1226 gan Louis VIII, brenin Ffrainc a legad y Pab. Gorfodwyd y ddinas i ddymchwel eu muriau.

Yn 1309, dewiswyd Avignon gan y Pab Clement V fel canolfan newydd yn lle Rhufain. Bu'r babaeth yma hyd 1377, a gelwir hwn yn gyfnod Pabaeth Avignon. Yn ystod yr Sgism Fawr (1378-1415), dychwelodd y Gwrth-babau Clement VII and Bened XIII i Avignon. Yn 1403, gorfodwyd Bened XIII i ffoi i Aragon.

Adeiladau a chofadeiladau

golygu

Adeilad enwocaf y ddinas yw'r Palais des Papes (Palas y Pabau). Dynodwyd canol hanesyddol Avignon a'r Palais des Papes yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO yn 1995. Mae'r ddinas yn adnabyddus hefyd oherwydd y gân Ffrangeg enwog i blant, "Sur le pont d'Avignon".

Enwogion

golygu