Athrawiaeth Brezhnev
Enw a roddir ar athrawiaeth polisi tramor tuag at wledydd y Bloc Dwyreiniol a arddelai llywodraeth yr Undeb Sofietaidd dan Leonid Brezhnev yw Athrawiaeth Brezhnev. Roedd yr Undeb Sofietaidd yn ymyrryd mewn llywodraethau'r gwledydd hynny ac yn eu trin fel petai eu sofraniaeth yn ddibynnol ar y Kremlin. Yn sgil y diwygiadau gwleidyddol yn Tsiecoslofacia a elwir yn Wanwyn Prâg, cafodd y wlad ei meddiannu gan luoedd yr Undeb Sofietaidd a Chytundeb Warsaw yn Awst 1968.[1] Cafodd yr athrawiaeth ei defnyddio sawl mlynedd wedi'r ffaith i gyfiawnhau'r ymateb yn erbyn Chwyldro Hwngari, 1956. Daeth yr agwedd dra-arglwyddiaethol i ben yn sgil argyfwng Gwlad Pwyl (1980–1981), pan wrthododd y Kremlin i ymyrryd yn filwrol i ostegu protestiadau a streiciau Solidarność.
Leonid Brezhnev ym 1973. | |
Enghraifft o'r canlynol | athrawiaeth polisi tramor |
---|
Cyfeiriadau
golygu- ↑ G. R. Berridge ac Alan James, A Dictionary of Diplomacy (Basingstoke: Palgrave Macmillan, 2003), t. 24.