Gwanwyn Prag
Roedd Gwanwyn Prag (Tsieceg: Pražské jaro, Slofaceg: Pražská jar) yn gyfnod o wleidyddiaeth gynyddol ryddfrydol a phrotestio torfol yng Ngweriniaeth Sosialaidd Tsiecoslofacia. Dechreuodd ar 5 Ionawr 1968, pan etholwyd y diwygiwr Alexander Dubček yn Brif Ysgrifennydd Plaid Gomiwnyddol Tsiecoslofacia (KSČ), a pharhaodd tan 21 Awst 1968, pan oresgynnodd yr Undeb Sofietaidd (a'r mwyafrif o aelodau Cytundeb Warsaw) y wlad i atal y diwygiadau hyn. Aelodau Cytundeb Warsaw yr adeg honno oedd Gwlad Pwyl, Hwngari, Dwyrain yr Almaen a Bwlgaria. Aeth y myfyriwr Jan Palach ati i losgi ei hunan i farwolaeth ar 16 Ionawr 1969 mewn brotest yn erbyn y goresgyniad.
Enghraifft o'r canlynol | digwyddiad hanesyddol |
---|---|
Dyddiad | 1968 |
Rhan o | hanes Tsiecoslofacia |
Lleoliad | Tsiecoslofacia |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Roedd diwygiadau Gwanwyn Prag yn ymgais gref gan Dubček i roi hawliau ychwanegol i ddinasyddion Tsiecoslofacia mewn gweithred o ddatganoli rhannol o'r economi a democrateiddio. Roedd y rhyddid a roddwyd yn cynnwys llacio cyfyngiadau ar y cyfryngau, rhyddid barn a theithio. Ar ôl trafodaeth genedlaethol ar rannu'r wlad yn ffederasiwn o dair gweriniaeth, sef Bohemia, Morafia-Silesia a Slofaciagoruchwyliodd Dubček y penderfyniad i rannu'n ddwy, y Weriniaeth Sosialaidd Tsiec a Gweriniaeth Sosialaidd Slofacia.[1] Y ffederasiwn deuol hwn oedd yr unig newid ffurfiol a oroesodd y goresgyniad.
Ni chafodd y diwygiadau, yn enwedig datganoli awdurdod gweinyddol, dderbyniad da gan y Sofietiaid, a anfonodd hanner miliwn o filwyr Cytundeb Warsaw a thanciau i feddiannu'r wlad, ar ôl trafodaethau aflwyddiannus. Dyfynnodd y New York Times adroddiadau am 650,000 o ddynion Sofietaidd gyda'r arfau mwyaf modern a soffistigedig.[2] Ysgubodd ton enfawr o ymfudwyr yn ffoi o'r wlad. Cynyddwyd gwrthwynebiad y Tsiecoslafaciaid ledled y wlad, gan gynnwys difrodi arwyddion strydoedd, herio'r hwyrglychau ac ati. Cafwyd gweithredoedd treisgar yma-ac-acw a nifer o hunanladdiadau protest trwy hunanlosgi (yr enwocaf oedd y myfyriwr ifanc Jan Palach), ond dim gwrthwynebiad milwrol. Parhaodd Tsiecoslofacia yn dalaith lloeren Sofietaidd tan 1989 pan roddodd y Chwyldro Felfed ddiwedd heddychlon ar y gyfundrefn gomiwnyddol; gadawodd y milwyr Sofietaidd olaf y wlad yn 1991.
Ar ôl y goresgyniad, aeth Tsiecoslofacia i gyfnod a elwir yn normaleiddio, lle ceisiodd arweinwyr newydd adfer y gwerthoedd gwleidyddol ac economaidd a oedd wedi bodoli cyn i Dubček ennill rheolaeth ar y KSČ. Roedd Gustáv Husák, a ddisodlodd Dubček fel Prif Ysgrifennydd ac a ddaeth hefyd yn Llywydd, wedi gwrthdroi bron pob un o'r diwygiadau. Ysbrydolodd Gwanwyn Prag gerddoriaeth a llenyddiaeth newydd gan gynnwys gwaith Václav Havel, Karel Husa, Karel Kryl a nofel Milan Kundera Nesnesitelná lehkost bytí a droswyd i'r Saesneg dan y teitl The Unbearable Lightness of Being.
Y goresgyniad Sofietaidd
golyguGan fod y trafodaethau yn anfoddhaol, dechreuodd y Sofietiaid ystyried dewis grym milwrol. Daeth polisi Sofietaidd o orfodi llywodraethau sosialaidd ei gwladwriaethau lloeren i ddarostwng eu buddiannau cenedlaethol i rai'r Bloc Dwyreiniol (trwy rym milwrol os oedd angen) yni'w adnabod fel Athrawiaeth Brezhnev.[3] Ar noson 20–21 Awst, goresgynnodd byddinoedd Cytundeb y Dwyrain y ČSSR gan deithio yno o bedair gwlad Cytundeb Warsaw—yr Undeb Sofietaidd, Bwlgaria, Gwlad Pwyl a Hwngari.[4]
Y noson honno, daeth 165,000 o filwyr a 4,600 o danciau i mewn i'r wlad.[5] Meddiannwyd Maes Awyr Rhyngwladol Ruzyně yn gyntaf, a hedfanodd rhagor o filwyr yno, i'r maes awyr. Cyfyngwyd lluoedd Tsiecoslofacia i'w barics, y rhai oedd wedi eu hamgylchynu hyd nes y tawelwyd y bygythiad o wrthymosodiad. Erbyn bore 21 Awst roedd Tsiecoslofacia wedi'i meddiannu heb fawr o wrthwynebiad.
Gwrthododd Romania ac Albania gymryd rhan yn y goresgyniad.[6] Ni ddefnyddiwyd milwyr Dwyrain yr Almaen oherwydd goresgyniad y Natsïaid yn 1938.[7] Yn ystod y goresgyniad, lladdwyd cyfanswm o 72 o Tsieciaid a Slofaciaid (19 o'r rhai yn Slofacia), clwyfwyd 266 yn ddifrifol a 436 arall gyda mân anafiadau.[8][9] Galwodd Alexander Dubček ar ei bobl i beidio â gwrthsefyll.[9] Serch hynny, roedd gwrthwynebiad gwasgaredig ar y strydoedd. Peintiwyd arwyddion ffyrdd mewn trefi ac eithrio'r rhai a oedd yn nodi'r ffordd i Moscow.[10] Ailenwodd sawl pentref eu hunain yn "Dubček" neu'n "Svoboda"; felly, heb ddull i nafigeiddio, dryswyd y goresgynwyr yn aml.[11]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Czech radio broadcasts 18–20 August 1968
- ↑ "New York Times September 2, 1968".
- ↑ Chafetz (1993), p. 10
- ↑ Ouimet (2003), pp. 34–35
- ↑ Communist Czechoslovakia, 1945–1989: A Political and Social History. Kevin McDermott. European History in Perspective. pp 145.
- ↑ Curtis, Glenn E. "The Warsaw Pact". Federal Research Division of the Library of Congress. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 February 2008. Cyrchwyd 19 February 2008.
- ↑ "Der 'Prager Frühling'". Bundeszentrale für politische Bildung. 9 May 2008.
- ↑ "Springtime for Prague". Prague Life. Lifeboat Limited. Cyrchwyd 30 April 2006.
- ↑ 9.0 9.1 Williams (1997), p. 158
- ↑ See Paul Chan, "Fearless Symmetry" Artforum International vol. 45, March 2007.
- ↑ "Civilian Resistance in Czechoslovakia". Fragments. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-04-24. Cyrchwyd 5 January 2009.