Ymadrodd a ddefnyddir i ddisgrifio egwyddorion polisi tramor George W. Bush, Arlywydd yr Unol Daleithiau (2001–09), fel athrawiaeth polisi tramor yw Athrawiaeth Bush. Mae diffiniad y term yn amrywio, ond gan amlaf mae'n cynnwys cefnogaeth dros ddemocratiaeth yn y Dwyrain Canol, rhyfel rhagymosodol (gweler Rhyfel Irac), a pharodrwydd i weithredu'n unochrog yng nghysylltiadau rhyngwladol er buddiannau'r Unol Daleithiau, yn enwedig i amddiffyn yr UD yn erbyn terfysgaeth o wledydd tramor. Cysylltir yr athrawiaeth yn gryf â pholisi tramor yr UD parthed y Rhyfel yn erbyn Terfysgaeth yn ystod arlywyddiaeth Bush.

Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth yr Unol Daleithiau. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.