Athroniaeth addysg
Athroniaeth sydd yn ymwneud â natur, amcanion, ffurfiau, dulliau, a phroblemau addysg yw athroniaeth addysg. Cangen o athroniaeth gymhwysol ydyw, sy' defnyddio dulliau athronyddol i ddadansoddi gwaith a swyddogaeth yr athro. Gallai'r maes hwn hefyd ymdrin â'r berthynas rhwng addysg a chyd-destunau cymdeithasol a diwylliannol ehangach.[1][2] Defnyddir yr ymadrodd athroniaeth addysg yn aml i ddisgrifio dull neu syniadaeth bedagogaidd benodol, ac mae'r ystyr honno yn gorgyffwrdd â damcaniaeth addysg.
Enghraifft o'r canlynol | un o ganghennau athroniaeth |
---|---|
Math | athroniaeth |
Rhan o | education policy, sociology and philosophy |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Hanes athroniaeth Ewropeaidd
golyguMae hanes athroniaeth addysg yn dilyn hynt y traddodiad athronyddol Ewropeaidd, a'i athronwyr yn datblygu athroniaethau addysgol sydd yn gysylltiedig â'u damcaniaethau am epistemoleg, metaffiseg, moeseg, ac athroniaeth wleidyddol. Gellir ei olrhain yn ôl i Socrates a'r dull ymchwil a enwir amdano, y dilechdid Socrataidd, a'i bwyslais ar reswm. Yn yr ugain canrif a phedair ers oes Socrates, mae rheswm a rhesymoledd wedi bod yn ganolog i bron pob damcaniaeth addysgol yn y traddodiad Ewropeaidd.
Ymhelaethai Platon, un o ddisgyblion Socrates, ar syniadaeth sy'n gwerthfawrogi rheswm a doethineb. Yn ei waith Y Wladwriaeth, mae'n llunio gweledigaeth iwtopaidd o gyfundrefn hierarchaidd sy'n pennu mathau gwahanol o addysg ar gyfer grwpiau gwahanol o fyfyrwyr, yn ôl eu galluoedd, eu diddordebau, a'u safleoedd cymdeithasol. Roedd Aristoteles, un o ddisgyblion Platon, yn fwy obeithiol o allu'r unigolyn. Pwysleisiodd addysg foesol sy'n magu rhinwedd a datblygiad o ran cymeriad y myfyriwr, er lles y gymuned.