Lle neu gyflwr delfrydol berffaith yw Iwtopia.[1]

CefndirGolygu

Nunlle yw ystyr yr enw Groeg Iwtopia neu Wtopia. Tebyg mai Syr Thomas More yn ei lyfr Utopia (1516) a ddefnyddiodd y gair gyntaf i olygu gwladwriaeth berffaith nad ydym wedi ei chyrraedd eto. Ond roedd y drychfeddwl yn hen, cyn hyned yn sicr â'r Wladwriaeth gan Platon yn y 4g CC. Cawn felly’r cyferbyniad rhwng Arcadia – y baradwys a fu, ac Iwtopia – y baradwys sydd i ddod.

Iwtopia mewn llenyddiaethGolygu

Ym mhob darlun o Iwtopia mae pethau na allant blesio pawb, a phen draw hyn yw y gall paradwys un dyn fod yn uffern i arall. Mewn profiad ymarferol ac mewn llenyddiaeth tuedda Iwtopia bron yn anochel i fynd o chwith, gan roi inni yr hyn a alwyd yn "Dystopia". Er mai camfathiad yw’r gair, gwna’n iawn i gyfleu methiant yr ymgais i greu byd gwell. "Dystopaidd" yw rhai o nofelau enwocaf yr 20g, e.e. Darkness at Noon gan Arthur Koestler, Brave New World gan Aldous Huxley, ac Animal Farm a Nineteen Eighty-Four gan George Orwell; yn gefndir iddynt mae ffactorau fel dadrith ynghylch y chwyldro Comiwnyddol a phryder am rawd gwyddoniaeth.

Iwtopia mewn llenyddiaeth Cymraeg a ChymreigGolygu

Yn Wythnos yng Nghymru Fydd gan Islwyn Ffowc Elis mae inni ddewis clir rhwng Iwtopia Gymreig a Dystopia Brydeinig, yn dibynnu’n llwyr ar sut y bwriwn ein pleidlais. Yn Breuddwyd Pabydd wrth ei Ewyllys mae Emrys ap Iwan yn 1890-2 yn dychmygu Cymru bosibl yn 2012, ac er bod elfennau Iwtopaidd yn ei Gymru newydd bu’n rhaid aberthu rhai pethau er mwyn ei chael. Math ar Dystopia yw byd storïau Caradoc Evans, yr hunllef wledig sydd mewn cyferbyniad amlwg (a bwriadol mae’n debyg) â’r darlun rhamantaidd a Rhyddfrydol o’r werin Gymraeg oleuedig ac o burdeb bywyd y wlad.

CyfeiriadauGolygu

Darllen pellachGolygu

  • William S. Haney II, Utopia and Consciousness (Consciousness, Literature & the Arts 29) (Amsterdam: Rodopi, 2011).
  • A. L. Morton, The English Utopia (Llundain: Lawrence & Wishart, 1952).
  Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o'r cofnod Iwtopia ar yr Esboniadur, adnodd addysgiadol agored gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae gan y cofnod penodol hwnnw'r drwydded agored CC BY 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.