Cleopatra Filopator Nea Thea, Cleopatra VII, mewn Groeg: Κλεοπάτρα Φιλοπάτωρ, (69 CC - 30 CC) oedd brenhines olaf yr Aifft o'r olaf o dŷ brenhinol y Ptolemiaid, a sefydlwyd gan Ptolemi I Sóter, un o gadfridogion Alecsander Fawr.

Cleopatra
Ganwydc. 13 Ionawr 69 CC Edit this on Wikidata
Alexandria Edit this on Wikidata
Bu farw12 Awst 30 CC Edit this on Wikidata
o gwenwyniad Edit this on Wikidata
Alexandria Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Hen Aifft Edit this on Wikidata
Galwedigaethbrenin neu frenhines, teyrn Edit this on Wikidata
SwyddPharo Edit this on Wikidata
TadPtolemi XII Auletes Edit this on Wikidata
MamUnknown, Cleopatra V of Egypt Edit this on Wikidata
PriodPtolemi XIII Theos Philopator, Ptolemi XIV, Marcus Antonius Edit this on Wikidata
PartnerGnaeus Pompeius, Iŵl Cesar Edit this on Wikidata
PlantCaesarion, Cleopatra Selene II, Alexander Helios, Ptolemi Philadelphws Edit this on Wikidata
LlinachBrenhinllin y Ptolemïaid Edit this on Wikidata
Mae hon yn erthygl am y frenhines adnabyddus o'r Hen Aifft. Am enghreifftiau eraill o'r enw, gweler Cleopatra (gwahaniaethu).

Bywgraffiad golygu

Roedd yn ferch i Cleopatra V Trifena a Ptolemi XII Auletes, a daeth yn frenhines yn 51 CC, yn 17 oed, ar y cyd a'i brawd (a ddaeth hefyd yn ŵr iddi) Ptolemi XIII, a oedd yn 12 oed ar y pryd. Teulu Groegaidd oedd y Ptolemiaid, a dywedir mai Cleopatra oedd y gyntaf o'i llinach i fedru Eiffteg.

Wedi teyrnasu am dair blynedd, gyrrodd Ptolemi ei chwaer o'r orsedd ar gyngor Pothinus ac Achillas, ac alltudiwyd hi i Syria. Ceisiodd Cleopatra adennill yr orsedd, ond ni lwyddodd nes i Iŵl Cesar gyrraedd dinas Alexandria yn 48 CC. Flwyddyn yn ddiweddarach lladdwyd Ptolemi wrth ymladd yn erbyn milwyr Cesar, a daeth Cleopatra yn frenhines. Priododd a brawd arall, 12 oed ar y pryd, a ddaeth yn Ptolemi XIV. Yn yr ymladd llosgwyd rhan fawr o Alexandria, yn cynnwys y llyfrgell enwog.

Pan ddychwelodd Cesar i Rufain, dilynodd Cleopatra ef yno, a bu'n byw gydag ef yno. Ganwyd mab iddynt, a enwyd yn Cesarion. Yn 44 CC llofruddiwyd Cesar, a dychwelodd Cleopatra a'i mab i'r Aifft. Dilynwyd llofruddiaeth Cesar gan ryfel cartref, gyda Marcus Antonius yn arwain pleidwyr Cesar yn erbyn y gweriniaethwyr oedd wedi bod a rhan yn ei lofruddio. Gofynnodd Antonius am gymorth gan Cleopatra, ond gwrthododd hi ymyrryd. Teithiodd Antonius i'r Aifft i'w chyfarfod yn 41 CC, a syrthiodd y ddau mewn cariad. Penderfynodd Antonius aros yn yr Aifft am gyfnod, nes iddo gael ei orfodi i ddychwelyd i Rufain. Yn fuan wedyn ganwyd dau efaill i Cleopatra, Cleopatra Selene ac Alecsander Helios. Yn 36 CC teithiodd Antonius i'r dwyrain i ymladd yn erbyn y Parthiaid. Aeth Cleopatra gydag ef, a ganwyd eu trydydd plentyn, Ptolemi Filadelfos. Bu'r ymgyrch yn llwyddiant mawr, a dychwelodd y ddau i Alexandria.

Roedd perthynas Marcus Antonius gydag Octavianus (a ddaeth yn ymerawdwr yn ddiweddarach dan yr enw Augustus), ei frawd-yng-nghyfraith, wedi dirywio erbyn hyn, ac yn 32 CC aeth yn rhyfel rhwng Octavianus ac Antonius a Cleopatra. Ym Mrwydr Actium yn 31 CC gorchfygwyd llynges Cleopatra gan Octavianus, a lladdodd hi a Marcus Antonius eu hunain yn hytrach na chael eu cymryd i Rufain fel carcharorion.

Gweler hefyd golygu

Rhagflaenydd:
Ptolemi XII
Brenhines yr Aifft
51 CC30 CC
gyda Ptolemi XII, Ptolemi XIII, Ptolemi XIV, a Ptolemi XV (Caesarion)
Olynydd: