Aurelius Caninus
Un o’r pum teyrn Cymreig yr ymosodwyd arnynt gan Gildas yn ei lyfr De Excidio Brittanniae oedd Aurelius Caninus (fl. tua 530), y cyfeirir ato hefyd fel Cynan Wledig (gweler isod).
Aurelius Caninus | |
---|---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | teyrn, pendefig |
Blodeuodd | 540 |
Swydd | tywysog |
Perthnasau | Cystennin |
Gildas
golyguEf yw’r ail i’w grybwyll gan Gildas yn ei restr o frenhinoedd Cymreig, ac awgryma J.E. Lloyd, os yw Gildas yn eu rhestru yn ôl eu lleoliad daearyddol, fod ei deyrnas yn Nyffryn Hafren.
Awgryma Lloyd ymhellach y gall fod Aurelius Caninus yn ddisgynnydd i Ambrosius Aurelianus, a bod Gildas wedi troi enw Celtaidd y brenin yn "Caninus" (ci) fel sarhad arno. Mae’n ei gyhuddo o lofruddiaeth, godineb a chasineb at heddwch. Dywed fod ei deulu wedi marw a’i adael "fel pren crin yng nghanol cae."
Sieffre o Fynwy
golyguYmddengys yng ngwaith Sieffre o Fynwy dan yr enw "Aurelius Conanus", neu yn y trosiadau Cymraeg o waith Sieffre, "Cynan Wledig".[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Brut Dingestow, gol. Henry Lewis (Gwasg Prifysgol Cymru, 1942)