De Excidio Britanniae

(Ailgyfeiriad o De Excidio Brittanniae)


Llyfr Lladin o waith y mynach Brythonaidd Gildas yw De Excidio Britanniae ("Ynghylch Dinistr Prydain"). Mae’r llyfr yn bregeth gyda thair rhan.

De Excidio Britanniae
Enghraifft o'r canlynolgwaith ysgrifenedig Edit this on Wikidata
AwdurGildas Edit this on Wikidata
IaithLladin Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu6 g Edit this on Wikidata
GenrePregeth Edit this on Wikidata
Prif bwncPrydain Fawr, Brwydr Mynydd Baddon Edit this on Wikidata

Cynnwys

golygu

Yn y rhan gyntaf mae Gildas yn egluro ei reswm dros ysgrifennu’r llyfr a rhoi amlinelliad o hanes Prydain dan yr Ymerodraeth Rufeinig ac wedi ymadawiad y llengoedd, hyd at gyfnod Gildas ei hun. Thema Gildas yw fod y Brythoniaid wedi colli rheolaeth ar Brydain i'r Sacsoniaid fel cosb Duw am eu pechodau. Yr unig un o arweinwyr y Brythoniaid y mae Gildas yn ei ganmol yw Emrys Wledig, "Ambrosius Aurelianus". Dywed Gildas fod Emrys o deulu Rhufeinig, a'i fod wedi casglu lluoedd ynghyd i wrthwynebu'r Saeson, gan ennill buddugoliaethau yn eu herbyn.

Cyfeiria at Frwydr Mynydd Baddon, ond nid yw’n crbwyll enw arweinydd y Brythoniaid yn y frwydr hon. Nid yw’n crybwyll enw Arthur, a gysylltir a brwydr Mynydd Baddon gan Nennius yn ddiweddarach. Wrth drafod Mynydd Baddon, mae Gildas i bob golwg yn dweud fod y frwydr wedi ei hymladd yr un flwyddyn ag y ganed ef ei hun, er fod y gwreiddiol Lladin yn anodd yn y frawddeg yma (quique quadragesimus quartus (ut novi) orditur annus, mense iam uno emenso, qui et meae nativitatis est).

Mae'r ail ran yn dechrau trwy ddweud Reges habet Britannia, sed tyrannos, iudices habet, sed impios ("Mae gan Brydain freninhoedd, ond gormeswyr ydynt; mae ganmddi farnwyr ond annuwiol ydynt …"). Aiff ymlaen i gondemnio pum teyrn wrth eu henwau: Constantinus o Dumnonia, Aurelius Caninus, Vortiporius, teyrn y Demetae (Dyfed), Cuneglasus a Maelgwn Gwynedd (Maglocunus).

Yn y drydedd ran mae offeiriaid Prydain dan lach Gildas, ond nid yw’n enwi unigolion yn y rhan yma, nac yn rhoi llawer o fanylion.

Dyddiad

golygu

Nid oes sicrwydd o ddyddiad y De Excidio, ond gan ei fod yn condemnio Maelgwn Gwynedd fel teyrn oedd ar ei orsedd ar y pryd, rhaid ei fod yn dyddio o hanner cyntaf y 6g. Yn ôl yr Annales Cambriae, bu Maelgwn farw yn 547.

Ysgolheictod

golygu

Mae'r De Excidio o bwysigrwydd mawr fel un o’r ychydig o weithiau i oroesi o’r cyfnod yma yn hanes Prydain, ond rhaid cofio nad hanesydd oedd Gildas. Mae'r hanesydd John Davies yn Hanes Cymru yn ei ddisgrifio fel "pregethwr crac" tra bod A. W. Wade-Evans yn cyfeirio at y De excidio fel y llyfr a fu'n gyfrifol am osod seiliau hanes Cymru "ar gors o gelwydd" am ganrifoedd maith. Defnyddiwyd y llyfr yn helaeth gan Beda yn ei hanes ef, Historia Ecclesiastica Gentis Anglorum, gan ddatblygu dadl Gildas yn y De Excidio fod y Brythoniaid wedi colli rheolaeth ar Brydain fel cosb Duw am eu pechodau.

Argraffiadau a chyfieithiadau

golygu

Cyhoeddwyd y De Excidio gyntaf gan Polydore Vergil yn 1525., gydag argraffiad Newydd gan John Josseline yn 1568. Argraffwyd y gwaith nifer o weithiau ym Mhrydain ac ar y cyfanfir ers hynny. Cyhoeddodd Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion argraffiad o’r testun a chyfieithiad Saesneg yn 1899 dan olygyddiaeth Hugh Williams, a’r un flwyddyn cyhoeddwyd cyfieithiad Cymraeg gan John Owen Jones yn O Lygad y Ffynnon. Ceir cyfieithiad Cymraeg arall, gyda nodiadau, gan A. W. Wade-Evans (Coll Prydain, Gwasg y Brython, 1950).

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu