Avon Fantasy Reader
Cylchgrawn Americanaidd oedd yr Avon Fantasy Reader a ailgyhoeddai straeon ffuglen wyddonol a ffantasi gan awduron ifainc nad oedd yn adnabyddus ar y pryd ond sy'n cynnwys rhai a gydnabyddir erbyn hyn fel awduron mawr y genres hynny. Roedd yr awduron a gyhoeddwyd gan y cylchgrawn yn cynnwys H. P. Lovecraft, Ray Bradbury, Robert Bloch, Clarke Ashton Smith, Murray Leinster, Algernon Blackwood a William Hope Hodgson. Nodweddir cloriau'r cylchgrawn gan luniau yn arddull lliwgar y comics ffantasi a ffuglen wyddonol a phosteri 'ffilmiau B' a fu mor boblogaidd yn America'r 1950au. Cyhoeddwyd yr Avon Fantasy Reader o 1946 hyd 1952 mewn rhediad o 18 rhifyn. Erbyn heddiw mae copïau o'r cylchgrawn yn gasgliadwy iawn.
Enghraifft o'r canlynol | cylchgrawn |
---|---|
Daeth i ben | 1952 |
Golygydd | Donald Allen Wollheim |
Dechrau/Sefydlu | 1947 |
Daeth i ben | 1952 |