Ffantasi
Math o ffuglen sy'n ymwneud â digwyddiadau a chymeriadau sy'n perthyn i'r byd goruwchnaturiol neu hudol neu i fydau dychmygol yw ffantasi.[1][2]
Enghraifft o'r canlynol | ffantasi |
---|---|
Math | ffuglen ddamcaniaethol |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae ystod y gweithiau ffuglen sy'n cael eu hystyried yn ffantasi yn eang iawn, gyda gorgyffwrdd sylweddol mewn rhai achosion gyda mathau eraill o ffuglen megis Ffuglen wyddonol ac Arswyd.
Hanes
golyguMae ffurf ganoloesol i nifer sylweddol o straeon ffantasi, hynny yw maent yn tynnu ar chwedlau a llên gwerin yr Oesoedd Canol yn ogystal ag elfennau hanesyddol y cyfnod hwnnw, megis brenhinoedd a marchogion. Fodd bynnag, nid yw'r elfennau canoloesol hyn yn hanfodol i ffantasi ac mae enghreifftiau o ffantasi lle mae'r stori (neu rannau ohoni) wedi'u lleoli yn y byd go iawn, er gwaetha'r elfennau hudol.
Nid yw chwedlau gwerin eu hunain fel arfer yn cael eu hystyried yn enghreifftiau o ffantasi, na chwaith ffuglen o'r cyfnod modern cynnar, hyd yn oed os ydynt yn cynnwys elfennau hudol neu oruwchnaturiol. Ceir enghreifftiau cynnar o ffantasi llenyddol o'r 19g, er enghraifft rhai gweithiau gan yr awduron Saesneg William Morris a'r Arglwydd Dunsany. Ond mae mwyafrif helaeth ffuglen ffantasi yn hanu o'r 20g, gydag awduron fel Robert E. Howard, sef awdur straeon cyntaf Conan the Barbarian, a J.R. R. Tolkien yn ffigyrau allweddol yn hanes cynnar y genre.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ ffantasi. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 12 Rhagfyr 2014.
- ↑ (Saesneg) fantasy (narrative genre). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 12 Rhagfyr 2014.