Awdurdod Cyllid Cymru

corff cyhoeddus Cymreig, adran o Lywodraeth Cymru

Corff cyhoeddus yw Awdurdod Cyllid Cymru (Saesneg: Welsh Revenue Authority), sy'n gyfrifol am gasglu trethi datganoledig Cymru. Sefydlwyd y pwerau ar gyfer creu trefniant i gasglu trethi datganoledig yn Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016. [1]

Awdurdod Cyllid Cymru
Welsh Revenue Authority

Dyfed Alsop, Prif Weithredwr
Gorolwg Adran llywodraeth anweinidogol
Ffurfiwyd1 Hydref 2017 (2017-10-01)
AwdurdodaethCymru Cymru
Gweithwyr80 (2022)
Gweinidog cyfrifol
Swyddogion Adran llywodraeth anweinidogol
  • Dyfed Alsop, Prif Weithredwr
  • Kathryn Bishop, Cadeirydd
  • Dyfed Edwards, Is-gadeirydd
Dogfen allweddol
  • Deddf Cymru 2017 & Deddf Cymru 2017
Gwefanllyw.cymru/awdurdod-cyllid-cymru

Mae gan y corff swyddfeydd ym Mhar Busnes Rhydycar (Merthyr Tufdul) ac adeilad Parc Cathays 2 (Caerdydd).[2] Cafodd aelodau bwrdd yr awdurdod eu penodi yn Haf 2017 a cyfarfu'r awdurdod am y tro cyntaf ar 18 Hydref 2017.[3] Daeth yr awdurdod yn gwbl weithredol yn Ebrill 2018, ac o'r dyddiad hwn roedd Cymru'n casglu peth o'i threthi am y tro cyntaf ers 800 mlynedd. Mae'r corff yn gyfrifol am gasglu Treth Trafodiadau Tir a'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi a threth incwm (Cyfradd Treth Incwm Cymru (CTIC)) ers 2019.

Penodwyd Kathryn Bishop yn gadeirydd gyntaf yr awdurdod ar 20 Chwefror 2017 yn dilyn pleidlais gan Bwyllgor y Cynulliad, y tro cyntaf i wrandawiad gael ei gynnal cyn penodiad Gweinidogol.[4] Penodwyd Dyfed Edwards, cyn-arweinydd Cyngor Gwynedd, fel is-gadeirydd yn Medi 2018.[5]

Cyfrifoldebau

golygu
Mark Drakeford yn esbonio'r drefn newydd yn 2017

Yn ogystal â chasglu trethi, mae'r Awdurdod yn gwneud y canlynol:

  • darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth ynghylch y trethi i’r trethdalwyr
  • datrys cwynion ac anghydfodau
  • hyrwyddo cydymffurfiaeth â’r trethi
  • lleihau achosion o efadu ac osgoi trethi
  • cefnogi datblygiad polisi Llywodraeth Cymru ar drethi

Trethi datganoledig

golygu

Mae Deddfau Cymru 2014 a 2017 yn datganoli y trethi canlynol i'r Cynulliad Cenedlaethol:[6]

  • Ardrethi Annomestig (trethi busnes) - o 1 Ebrill 2015
  • Treth Trafodiadau Tir - o 1 Ebrill 2018
  • Treth Tirlenwi - o 1 Ebrill 2018
  • Treth Incwm (rhannol) - o 1 Ebrill 2019

Y ddeddfwriaeth perthnasol sy'n llywodraeth Awdurdod Cyllid Cymru a trethi Cymru yw:

  • Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) (2016)
  • Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017
  • Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017

Cyfeiriadau

golygu
  1.  Awdurdod Cyllid Cymru. Cynulliad Cenedlaethol Cymru (2 Chwefror 2017). Adalwyd ar 14 Chwefror 2017.
  2. Llywodraeth yn 'anwybyddu'r gogledd', medd AC .
  3. Trethi newydd – Awdurdod yn cwrdd am y tro cyntaf , Golwg360, 18 Hydref 2017. Cyrchwyd ar 19 Hydref 2017.
  4. Penodi Cadeirydd cyntaf Awdurdod Cyllid Cymru , Golwg360, 20 Chwefror 2017. Cyrchwyd ar 21 Chwefror 2017.
  5. Penodi Dyfed Edwards yn is-gadeirydd corff trethi Cymru , BBC Cymru Fyw, 12 Medi 2018.
  6. "Trysorlys Cymru a diwygio cyllidol". Llywodraeth Cymru. 2 Chwefror 2017. Cyrchwyd 7 Ionawr 2018.