Mark Drakeford

Prif Weinidog Cymru o 2018 i 2024

Gwleidydd ac academydd Cymreig yw'r Athro Mark Drakeford (ganwyd 19 Medi 1954) a wasanaethodd fel Prif Weinidog Cymru ac arweinydd Llafur Cymru rhwng 2018 a Mawrth 2024.[1][2] Bu'n Aelod o'r Senedd dros Orllewin Caerdydd ers 2011 ac roedd yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid yn Llywodraeth Cymru rhwng 2016 a 2018.

Y Gwir Anrhydeddus Athro
Mark Drakeford
AS
Drakeford yn 2020
4ydd Prif Weinidog Cymru
Mewn swydd
13 Rhagfyr 2018 – 20 Mawrth 2024
TeyrnElisabeth II
Siarl III
Rhagflaenwyd ganCarwyn Jones
Dilynwyd ganVaughan Gething
Arweinydd Llafur Cymru
Mewn swydd
6 Rhagfyr 2018 – 16 Mawrth 2024
DirprwyCarolyn Harris
ArweinyddJeremy Corbyn
Keir Starmer
Rhagflaenwyd ganCarwyn Jones
Dilynwyd ganVaughan Gething
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid
Mewn swydd
19 Mai 2016 – 12 Rhagfyr 2018
Prif WeinidogCarwyn Jones
Rhagflaenwyd ganJane Hutt
Dilynwyd ganRebecca Evans
Gweinidog Brexit
Mewn swydd
3 Tachwedd 2017 – 12 Rhagfyr 2018
Prif WeinidogCarwyn Jones
Rhagflaenwyd ganSefydlwyd y swydd
Dilynwyd ganJeremy Miles
Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mewn swydd
14 Mawrth 2013 – 19 Mai 2016
Prif WeinidogCarwyn Jones
DirprwyVaughan Gething
Rhagflaenwyd ganLesley Griffiths
Dilynwyd ganVaughan Gething
Aelod o Senedd Cymru
dros Gorllewin Caerdydd
Deiliad
Cychwyn y swydd
5 Mai 2011
Rhagflaenwyd ganRhodri Morgan
Mwyafrif1,176
Manylion personol
Ganwyd (1954-09-19) 19 Medi 1954 (69 oed)
Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin
CenedlCymro
Plaid wleidyddolLlafur
Plant3
Alma materPrifysgol Caint

Bywgraffiad golygu

Ganwyd a magwyd Drakeford yn Sir Gaerfyrddin, Gorllewin Cymru, cyn symud i Gaerdydd. Ers hynny mae wedi byw yn ardal Pontcanna yng Ngorllewin Caerdydd, gyda'i wraig a'i blant.[3] Bu'n gweithio fel swyddog prawf, yn weithiwr cyfiawnder ieuenctid ac arweinydd prosiect Barnardo's yn ardaloedd Elai a Chaerau o Gaerdydd.[3] Ar ôl cyfnod yn gweithio fel darlithydd ym Mhrifysgol Abertawe,[4][5] dychwelodd i weithio yng Nghaerdydd, lle ddaeth yn Athro Polisi Cymdeithasol a Gwyddorau Cymdeithasol Cymhwysol ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2003.[5] Mae wedi ysgrifennu a chyhoeddi nifer o lyfrau ac erthyglau o gyfnodolion ar wahanol agweddau ar bolisi cymdeithasol.[6]

Fe'i urddwyd i'r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022 gan gymryd yr enw barddol 'Mark Pengwern'. Wrth ei dderbyn, derbyniodd ganmoliaeth gan yr Archdderwydd, Myrddin ap Dafydd, am ei "arweiniad urddasol drwy gyfnod Covid a'r cyfnodau clo".[7]

Priododd ei wraig Clare yn 1977 ac roedd ganddynt tri o blant. Yn ystod pandemig COVID datgelwyd fod Mark wedi byw am y rhan fwyaf o 2020 mewn adeilad ar wahan i'w prif gartref yng Nghaerdydd. Roedd hyn i amddiffyn ei wraig a'i fam oedrannus a oedd yn gwarchod rhag y firws oherwydd eu hiechyd. Bu farw Clare yn sydyn ar 28 Ionawr 2023 a danfonwyd negeseuon o gydymdeimlad i Mark a'r teulu gan arweinyddio pob plaid.[8]

Gyrfa wleidyddol golygu

Roedd gan Drakeford ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth erioed, a dywedodd ei fod yn rhan o ffabrig bywyd yn y 1960au yn sir Gaerfyrddin.[9] Roedd yn gynghorydd Plaid Lafur ar Gyngor Sir De Morgannwg dros ardal Pontcanna o 1985 – 1993, gan arbenigo mewn materion addysg, gan gynnwys addysg cyfrwng Cymraeg.[9]

Rhwng 2000 a 2010 bu'n gweithio fel cynghorydd ar iechyd a pholisi chymdeithasol i Gabinet Llywodraeth Cynulliad Cymru, ac yn ddiweddarach yn bennaeth gwleidyddol swyddfa'r Prif Weinidog yn ystod cyfnod Rhodri Morgan fel Prif Weinidog.[3][5] Daeth Drakeford yn aelod o'r Cynulliad Cenedlaethol pan enillodd sedd Gorllewin Caerdydd ym Mai 2011, gan olynu Rhodri Morgan. Yn fuan ar ôl ei ethol, daeth yn Gadeirydd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad, ac yn Gadeirydd y Pwyllgor Rhaglen Monitro Traws-Cymru ar gyfer cronfeydd Ewropeaidd.[10]

Penodwyd Drakeford fel y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn dilyn ad-drefnu'r cabinet ar 14 Mawrth 2013. Cafodd ei benodiad ei groesawu gan y Gymdeithas Feddygol Prydeinig a'r Coleg Nyrsio Brenhinol.[11] Yng Ngorffennaf 2013, tywysodd Drakeford y Ddeddf Trawsblannu Dynol (Cymru) drwy'r Senedd, a arweiniodd at Gymru i ddod y rhan gyntaf o'r Deyrnas Unedig i gyflwyno caniatād tybiedig ar gyfer rhoddwyr organau. Galwodd hi'n "ddiwrnod hanesyddol i Gymru", ac yn "bolisi blaengar ar gyfer genedl blaengar".[12]

Arweinyddiaeth Llafur Cymru golygu

Yn dilyn cyhoeddiad Carwyn Jones ar 21 Ebrill 2018 ei fod yn bwriadu ymddiswyddo fel arweinydd y blaid a Prif Weinidog, dywedodd Drakeford ei fod yn rhoi 'ystyriaeth ddwys' i gynnig am yr arweinyddiaeth.[13] Dau ddiwrnod yn ddiweddarach, cyhoeddodd ei fod am wneud cais i fod yn ymgeisydd yn y gystadleuaeth.[14] Ar unwaith, derbyniodd gefnogaeth gyhoeddus gan 7 AC Llafur arall, gan ei gymryd dros y nifer o enwebiadau angenrheidiol i gystadlu am yr arweinyddiaeth.[15] Cyn i Jones rhoi hysbysiad ysgrifennedig o'i ymddiswyddiad ar 26 Medi, cyhoeddodd naw AC Llafur arall eu cefnogaeth i Drakeford, oedd yn golygu byddai mwyafrif Grŵp Llafur yn y Senedd yn cefnogi ei gais.[16] Yn ddiweddarach, derbyniodd gefnogaeth gan 10 AS, wyth undeb llafur a 24 Pleidiau Llafur Etholaethol.

Mewn cynhadledd arbennig ar 15 Medi 2018, penderfynwyd newid y system bleidleisio ar gyfer etholiadau arweinydd Llafur Cymru i un aelod, un bleidlais - newid yr oedd Drakeford wedi ymgyrchu drosto ers dros 20 mlynedd.

Roedd cynigion polisi cynnar gan ymgyrch Drakeford yn cynnwys peilot ar gyfer bwndeli babanod a gwthio am ddatganoli y Gwasanaeth Prawf.[17][18] Yn lansiad gogleddol ei ymgyrch, datganodd ei gynlluniau ar gyfer Deddf Partneriaeth Cymdeithasol i amddiffyn hawliau cyflogaeth, a cynlluniau i sefydlu Banc Cymunedol i Gymru.[19]

Ar 6 Rhagfyr 2018, cyhoeddwyd fod Drakeford wedi ei ethol yn arweinydd newydd Llafur Cymru i ddilyn Carwyn Jones. Derbyniodd 46.9% o'r bleidlais yn rownd gyntaf y gystadleuaeth, a 53.9% yn yr ail rownd i gymharu a 41.4% ar gyfer Vaughan Gething.[20][21]

Ar 12 Rhagfyr 2018 fe'i enwebwyd ar gyfer swydd Prif Weinidog Cymru. Yn ogystal, enwebwyd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price ac arweinydd y Ceidwadwyr, Paul Davies. Enillodd Drakeford 30 o bleidleisiau ac felly fe'i gadarnhawyd fel Prif Weinidog Cymru. Derbyniodd Davies 12 pleidlais a Price 9 pleidlais.[22] Ar 13 Rhagfyr 2018 tyngodd ei lw o flaen yr uwch farnwr Mr Ustus Lewis er mwyn cadarnhau ei benodiad yn swyddogol.[23]

Ar 12 Rhagfyr 2023, union bum mlynedd ers ei enwebu fel Prif Weinidog, cyhoeddodd y byddai yn sefyll lawr fel arweinydd Llafur yng Nghymru ar unwaith ac yn ymddiswyddo fel Prif Weinidog erbyn diwedd mis Mawrth 2024. Cychwynodd hyn y broses o ethol arweinydd newydd i Lafur.[24] Etholwyd Vaughan Gething fel ei olynydd yn arweinydd Llafur yng Nghymru ar 16 Mawrth 2024.[1] Ymddiswydodd Drakeford fel Prif Weinidog ar 20 Mawrth 2024.[25]


Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "Vaughan Gething wedi ei ethol yn arweinydd Llafur Cymru". BBC Cymru Fyw. 2024-03-16. Cyrchwyd 2024-03-16.
  2. "Pum peth sy'n diffinio cyfnod Mark Drakeford fel prif weinidog". BBC Cymru Fyw. 2024-03-19. Cyrchwyd 2024-03-20.
  3. 3.0 3.1 3.2 "Profile of Mark Drakeford". Welsh Labour. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-11-13. Cyrchwyd 12 Tachwedd 2013.
  4. "Mark Drakeford Interview". New Political Centre. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-11-13. Cyrchwyd 12 Tachwedd 2013.
  5. 5.0 5.1 5.2 "Mark Drakeford Biography". Cardiff University. Cyrchwyd 12 Tachwedd 2013.
  6. "Mark Drakeford Bibliography". Cardiff University. Cyrchwyd 12 Tachwedd 2013.
  7. Urddo Mark Drakeford a Huw Edwards i'r Orsedd , BBC Cymru Fyw, 5 Awst 2022.
  8. Clare Drakeford: Gwraig y Prif Weinidog wedi marw , BBC Cymru Fyw, 28 Ionawr 2023.
  9. 9.0 9.1 "Mark Drakeford Interview". Guardian. Cyrchwyd 12 Tachwedd 2013.
  10. "Mark Drakeford Biography". Welsh Government. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-05-31. Cyrchwyd 12 Tachwedd 2013.
  11. "Welsh government reshuffle: Mark Drakeford new health minister". BBC News. Cyrchwyd 12 Tachwedd 2013.
  12. "Organ donation opt-out system given go-ahead in Wales". BBC News. Cyrchwyd 12 Tachwedd 2013.
  13. "Drakeford in Welsh Labour leader bid". BBC News (yn Saesneg). 2018-04-24. Cyrchwyd 2018-04-24.
  14. Shipton, Martin (2018-04-24). "'I'm the unity candidate,' says Mark Drakeford". walesonline. Cyrchwyd 2018-09-27.
  15. "Drakeford in Welsh Labour leadership bid". BBC News (yn Saesneg). 2018-04-24. Cyrchwyd 2018-09-27.
  16. "Most Labour AMs back Drakeford for leader". BBC News (yn Saesneg). 2018-09-17. Cyrchwyd 2018-09-30.
  17. "Baby bundle plan for newborns backed". BBC News (yn Saesneg). 2018-09-10. Cyrchwyd 2018-09-27.
  18. "Mark for Leader/ Mark ein Harweinydd on Twitter". Twitter (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-09-27.
  19. https://twitter.com/hannahblythyn/status/1051547797206511618
  20. "Drakeford set to be Wales' first minister". BBC News. 6 December 2018. Cyrchwyd 6 December 2018.
  21. Mark Drakeford yw arweinydd newydd Llafur , Golwg360, 6 Rhagfyr 2018.
  22. Cadarnhau Mark Drakeford fel prif weinidog nesaf Cymru , BBC Cymru Fyw, 12 Rhagfyr 2018.
  23. Mark Drakeford yn tyngu llw fel Prif Weinidog Cymru , BBC Cymru Fyw, 13 Rhagfyr 2018.
  24. "Mark Drakeford yn rhoi'r gorau i fod yn Brif Weinidog Cymru". Golwg360. 2023-12-13. Cyrchwyd 2023-12-13.
  25. "Datganiad y Llywydd ar Ymddiswyddiad Prif Weinidog Cymru" (PDF). Senedd Cymru. 2024-03-20. Cyrchwyd 2024-03-20.

Dolenni allanol golygu