B. H. Liddell Hart
hanesydd Prydeinig a damcaniaethwr rhyfel (1895-1970)
Milwr a hanesydd milwrol o Loegr oedd Syr Basil Henry Liddell Hart (31 Hydref 1895 – 29 Ionawr 1970)[1] a oedd yn ddamcaniaethwr milwrol blaenllaw rhwng y ddau Ryfel Byd. Ymysg ei lyfrau mae Strategy: The Indirect Approach, Scipio Africanus: Greater Than Napoleon, The History of the Second World War, a T. E. Lawrence: In Arabia and After, un o'r bywgraffiadau am Lawrence o Arabia ag awdurdodwyd ganddo (y llall oedd Lawrence and the Arabs gan Robert Graves).
B. H. Liddell Hart | |
---|---|
Ganwyd | 31 Hydref 1895 Paris |
Bu farw | 29 Ionawr 1970 Marlow |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | newyddiadurwr, hanesydd milwrol, hanesydd, llenor, milwr, tactegydd milwrol, athro |
Adnabyddus am | Greater than Napoleon: Scipio Africanus |
Priod | Unknown, Kathleen Liddell Hart |
Gwobr/au | Marchog Faglor |
Bu o dan archwiliad cudd gan yr MI5 am beth amser gan iddynt ei amau o ollwng gwybodaeth i'r Almaen am ymosodiad D-Day.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Sir Basil Liddell Hart. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 6 Ionawr 2014.
- ↑ Gwefan (Saesneg) y BBC; teitl: Files reveal leaked D-Day plans; cyhoeddwyd 04/09/2006; adalwyd 15/02/2012.