Balthazar Johannes Vorster

(Ailgyfeiriad o B. J. Vorster)

Gwleidydd o Dde Affrica a fu'n Brif Weinidog ac yna'n Arlywydd y wlad oedd Balthazar Johannes Vorster, a adnabyddid fel rheol fel John Vorster neu B.J. Vorster (13 Rhagfyr 191510 Medi 1983)

Balthazar Johannes Vorster
Ganwyd13 Rhagfyr 1915 Edit this on Wikidata
Uitenhage Edit this on Wikidata
Bu farw10 Medi 1983 Edit this on Wikidata
Tref y Penrhyn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethDe Affrica Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Stellenbosch Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddState President of South Africa, Prif Weinidog De Affrica Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolY Blaid Genedlaethol Edit this on Wikidata
Gwobr/auOrder of Good Hope Edit this on Wikidata

Ganed ef yn Jamestown, ac astudiodd yn Mhrifysgol Stellenbosch. O 1940 hyd 1953 bu'n gweithio fel cyfreithiwr. Roedd yn gwrthwynebu llywodraeth Prydain, ac oherwydd ei wrthwynebiad i'r ffaith fod De Affrica yn cymryd rhan yn yr Ail Ryfel Byd ar ochr Prydain, carcharwyd ef o fis Medi 1942 hyd Ionawr 1944.

Etholwyd ef i'r senedd yn 1953, a daeth yn is-weinidog yn 1958, ac yn weinidog yn 1961. Wedi i Hendrik Verwoerd, gael ei lofruddio yn 1966, olynodd Vorster ef fel Prif Weinidog. Yn y swydd yma, parhaodd gyda pholisïau Apartheid Verwoerd. Yn 1978 daeth yn Arlywydd, gyda P.W. Botha yn ei olynu fel Prif Weinidog. Yn 1979 bu raid iddo ymddiswyddo yn dilyn cyhuddiadau o afreoleidd-dra ariannol.