Agor y brif ddewislen
Mae'r erthygl yma am y wlad. Am yr ardal o'r cyfandir Affrica, gwelwch De Affrica (rhanbarth).
Republiek van Suid-Afrika
Republic of South Africa
IRiphabliki yaseNingizimu Afrika

Gweriniaeth De Affrica
Baner De Affrica
Baner Arfbais
Arwyddair: !ke e: ǀxarra ǁke
(Xam: "Undod mewn Amrywiaeth")
Anthem: National anthem of South Africa
Lleoliad De Affrica
Prifddinas Pretoria (gweinyddol)

Cape Town (deddfwriaethol) Bloemfontein (cyfreithiol)

Dinas fwyaf Johannesburg
Iaith / Ieithoedd swyddogol Affricaneg, Saesneg, Swlw, Xhosa, Swati, Ndebele, Sesotho (Sotho'r De), Sotho'r Gogledd, Tsonga, Tswana, Venda
Llywodraeth Gweriniaeth
 • Arlywydd Jacob Zuma
Annibyniaeth
 • Undeb
 • Statud Westminster
o'r Deyrnas Unedig
31 May 1910
11 Rhagfyr 1931
Arwynebedd
 - Cyfanswm
 - Dŵr (%)
 
1,122,037 km² (25fed)
Dim
Poblogaeth
 - Amcangyfrif 2005
 - Cyfrifiad 2001
 - Dwysedd
 
47,432,000 (26fed)
44,819,278
39/km² (163fed)
CMC (PGP)
 - Cyfanswm
 - Y pen
Amcangyfrif 2005
$570.2 biliwn (18fed)
$12,161 (55fed)
Indecs Datblygiad Dynol (2003) 0.658 (120ain) – canolig
Arian cyfred Rand De Affrica (ZAR)
Cylchfa amser
 - Haf
SAST (UTC+2)
Côd ISO y wlad .za
Côd ffôn +27

Gweriniaeth yn Affrica sydd yn cynnwys Penrhyn Gobaith Dda yw De Affrica neu De'r Affrig. Gwledydd cyfagos yw Namibia, Botswana, Simbabwe, Mosambic, Gwlad Swasi a Lesotho.

O holl wledydd cyfandir Affrica, De Affrica yw'r wlad sydd wedi gweld y mewnfudiad mwyaf o bobl o Ewrop, yn arbennig o'r Iseldiroedd a Phrydain, ond hefyd o Ffrainc a'r Almaen. Trefedigaeth Iseldiraidd oedd yna yn y dechreuad,[1] ond cafodd Prydain Fawr Trefedigaeth Penrhyn Gobaith Dda o'r Iseldiroedd ar ôl cytundeb Amiens yn 1805. Yn y 1830au a'r 1840au symudodd ymsefydlwyr Iseldiraidd i barthau y tu fewn yr wlad i sefydlu y Gweriniaethau Boer yn Nhransvaal a'r Dalaith Rydd Oren.

DaearyddiaethGolygu

Saif De Affrica ar ran deheuol cyfandir Affrica, wedi ei hamgylchynu ar dair ochr gan y môr. Mae gan y wlad dros 2,500 km (1,553 milltir) o arfordir. Yn y gogledd, mae'n ffinio ar Namibia, Botswana, Simbabwe, Mosambic a Gwlad Swasi, tra mae Lesotho yn cael ei hamgylchynu gan Dde Affrica.

O gwmpas yr arfordir mae rhimyn gweddol gul o dir isel, er ei fod yn lletach mewn ambell fan, megis talaith KwaZulu-Natal yn y dwyrain. Yng nghanol y wlad mae llwyfandir uchel. Yn rhan orllewinol y llwyfandir yma, ceir y Karoo, sy'n boeth iawn yn yr haf ond yn oer iawn yn y gaeaf. Dim ond dwy afon fawr sydd gan Dde Affrica, Afon Limpopo ac Afon Oren.

Mynydd uchaf y wlad yw Njesuthi, sy'n 3,410 metr o uchder. Saif yng ngorllewin y wlad, ar y ffîn â Lesotho.

HanesGolygu

Prif erthygl: Hanes De Affrica

Ceir tystiolaeth archaeolegol fod yr ardal sydd heddiw yn Dde Affrica yn gartref i un grud esblygiad pobol. Darganfuwyd rhai o'r olion dynol hynaf, sy'n dyddio dros 2.5 miliwn o flynyddoedd yn ôl, yn y wlad. Darganfuwyd olion australopithecus africanus yn Taung, Sterkfontein, Swartkrans, a Kromdraai, ac olion australopithecus robustus, sy'n dyddio yn ôl tua 3 miliwn o flynyddoedd, ym Makapansgat. Bu homo habilis, yr offerwr cyntaf, yn byw yn Ne Affrica rhyw 2.3 miliwn o flynyddoedd yn ôl, ac ymddangosodd homo sapiens yn gyntaf yno rhwng 125 000 a 50 000 o flynyddoedd yn ôl.

Trigolion cyntaf De Affrica oedd pobl Khoisan, helwyr-gasglwyr y San a bugeiliaid y Khoikhoi. Credir i'r bobl Bantu (hynafiaid y mwyafrif o bobl duon y Dde Affrica fodern) gyrraed tua 100 OC, gan ddod â dulliau byw a thechnoleg Oes yr Haearn gynnar i'r rhanbarth gydan nhw. O ganlyniad cafodd y grwpiau ethnig gwreiddiol eu cymhathu neu eu gwthio i ardaloedd ffiniol; heddiw mae eu disgynyddion yn byw yn niffeithdir y Kalahari ym Motswana (San) a de Namibia (Khoikhoi).

Y sefydlwyr Ewropeaidd cyntaf yn Ne Affrica oedd yr Iseldirwyr. Yn ystod y Rhyfeloedd Napoleonig yn Ewrop, meddiannodd Ffrainc yr Iseldiroedd, a meddiannodd y Deyrnas Unedig rhanbarth Penrhyn Gobaith Da dwywaith, yn 1795 a 1806. Yn 1814, tua diwedd oes yr ymladd yn Ewrop, prynodd y DU Gwladfa'r Penrhyn o'r Iseldirwyr am £6 miliwn. Ar ôl 1820 ymfudodd miloedd o Brydeinwyr i Dde Affrica, a mynnon nhw bod cyfraith Brydeinig yn cael ei gorfodi yn y wlad. Daeth Saesneg yn y iaith swyddogol yn 1822, rhoddwyd amddiffyniad i'r Khoikhoi, a diddymwyd caethwasiaeth yn 1833. Yn yr un cyfnod, ymestynnodd y Zulu, dan eu brenin Shaka, eu hawdurdod dros ran helaeth o'r hyn sy'n awr yn Dde Affrica.

Teimladau chwerw oedd gan y trigolion o dras Iseldiraedd, a ddaeth i'w handnabod fel y Boeriaid o ganlyniad i'r mesurau hyn, ac arweiniodd hyn at y Daith Fawr, pan fudodd rhyw 10 000 o Foeriaid i ogledd De Affrica rhwng 1836 a 1838. Mudodd y voortrekkers (rhagredegyddion) yma tua'r dwyrain a'r gogledd, a chyfaneddasant o amgylch yr Afon Oren, yr Afon Vaal, ac yn Natal. Yn dilyn ymosodiadau milwrol yn 1836 gyrron nhw lwyth y Ndebele tu hwnt i'r Afon Limpopo ac yn 1838 trechon nhw'r Zulu ym Mrwydr Afon Bloed cyn sefydlu cyfres o aneddiadau yn y rhanbarth. Meddiannodd y Prydeinwyr, a oedd yn dymuno cadw rheolaeth dros y voortrekkers, ranbarth arfordirol Natal a sefydlwyd Trefedigaeth y Goron yno yn 1843.

Gadawodd y mwyafrif o Foeriaid Natal ac aethant i'r gogledd a'r gorllewin, lle sefydlon nhw weriniaethau'r Wladwriaeth Rydd Oren a Thransvaal. Llechfeddiannodd y Prydeinwyr diroedd y Xhosa ar hyd oror dwyreiniol y Penrhyn mewn cyfres o ryfeloedd gwaedlyd. Enillodd llywodraethwr Gwladfa'r Penrhyn, Syr Harry Smith, reolaeth dros diriogaeth yr Afon Oren yn 1848. Ond gwadwyd ei bolisïau imperialaidd gan lywodraeth Brydeinig a oedd yn awyddus i gwtogi ei hymrwymiad yn Ne Affrica. Cydnabu Prydain annibyniaeth Boeriaid y Transvaal yng Nghytundeb Afon Sand yn 1852, ac annibyniaeth y Wladwriaeth Rydd Oren yng Nghytundeb Bloemfontein yn 1854.

Erbyn diwedd y 1850au cyfunwyd tiriogaethau Boeriaid y Transvaal tu hwnt i'r Afon Vaal yn swyddogol fel De Affrica, neu Weriniaeth Transvaal. Er ymgeisio'n ofer i uno'r weriniaeth a'r Wladwriaeth Rydd Oren, cadwodd y ddwy weriniaeth Foer gysylltiadau agos yn y blynyddoedd wedi hynny. Ymladdwyd Ail Ryfel y Boer rhwng 1899 a 1902. Ceisiodd yr Ymerodraeth Brydeinig feddiannu tiriogaethau gweriniaethau annibynnol y Boeriaid. Disgwylid y byddai'r rhyfel drosodd mewn ychydig fisoedd, ond llwyddodd y Boeriaid i wrthsefyll byddinoedd yr ymerodraeth am dair blynedd. Yn y diwedd, ymgorfforwyd y gweriniaethau yn yr Ymerodraeth Brydeinig.

System yn Ne Affrica o gadw pobl o wahanol hil ar wahân oedd Apartheid (Afrikaans, yn golygu "arwahanrwydd". Gweithredwyd y system rhwng 1948 a 1994. Dechreuwyd datblygu'r system pan gafodd De Affrica statws dominiwn hunanlywodraethol o fewn yr Ymerodraeth Brydeinig, a daeth i'w llawn dŵf wedi 1948. Dechreuwyd cael gwared o'r system mewn cyfres o drafodaethau rhwng 1990 a 1993, gan ddiweddau gydag etholiad cyffredinol 1994, y cyntaf i'w gynnal yn Ne Affrica gyda phawb yn cael pleidlais. Daeth Nelson Mandela yn Arlywydd, a pharhaodd yn y swydd hyd 1999, pan olynwyd ef gan Thabo Mbeki.

GwleidyddiaethGolygu

TaleithiauGolygu

DiwylliantGolygu

Prif erthygl: Diwylliant De Affrica

EconomiGolygu

Prif erthygl: Economi Affrica

DemograffegGolygu

Prif erthygl: Demograffeg De Affrica
 
Poblogaeth De Affrica 1961-2004
Cyfrifiad 2001 Amcangyfrif 2006
Poblogaeth 44,819,778 47,390,900
Grŵp ethnig (%)
Du Affricanaidd
Gwyn
Cymysg
Indiaidd neu Asiaidd
79.0
9.6
8.9
2.5
79.5
9.2
8.9
2.5
Iaith Gartref (%)
Swlw
Xhosa
Afrikaans
Sotho'r Gogledd
Saesneg
Tswana
Sesotho (Sotho'r De)
Tsonga
Swati
Venda
Ndebele
23.8
17.6
13.3
9.4
8.2
8.2
7.9
4.4
2.7
2.3
1.6

CyfeiriadauGolygu

  1. "African History Timeline". Prifysgol West Chester, Pennsylvania.