Baban dethol
Baban dethol (Saesneg: Designer baby) yw plentyn sydd â genynnau etifeddol sydd wedi cael eu dethol drwy ddefnyddio technoleg atgenhedlu genetig.[1] Pwrpas hyn yw creu y cyfuniad perffaith o enynnau'r rhieni i sicrhau iechyd, rhyw a nodweddion esthetig megis lliw gwallt a lliw llygaid y plentyn.
Math | Babi, GMO |
---|---|
Label brodorol | designer baby |
Enw brodorol | designer baby |
Materion moesol
golyguMae yna lawer o bobl sy'n anghytuno â'r defnydd o dechnoleg atgenhedlu genetig oherwydd eu cred ei fod yn groes i natur ac nid yw’n cael ei dderbyn yn gymdeithasol oherwydd y posibilrwydd y gall hyn gael effaith mawr ar boblogaeth y byd. Ar y foment mae tua hanner poblogaeth y byd yn ddynion a'r hanner arall yn fenywod a phe caniateir dewis yna gall hyn gael effaith negyddol mewn gwledydd megis Tsieina ble mae statws y dyn yn uwch na’r fenyw.
Cyfeiriadau
golyguDolenni allanol
golygu- Babanod dethol ar wefan y 'Grid Cenedlaethol ar gyfer Dysgu Cymru'
- (Saesneg) Bonsor, Kevin. Howstuffworks: How Designer Children Will Work