Baban y Swyddfa Gartref

Roedd Baban y Swyddfa Gartref yn stỳnt cyhoeddusrwydd ym 1884 a gyflawnwyd gan y Parch John Mirehouse, rheithor ecsentrig Colsterworth, Swydd Lincoln, Lloegr ,a achosodd sgandal yn y byd gwleidyddol a'r byd crefyddol.[1]

Eglwys Colsterworth

Baban teulu Cooper

golygu

Ar ddechrau mis Tachwedd 1884 roedd Jerry Cooper, llafurwr, oedd yn byw yn Colsterworth a'i wraig wedi cael plentyn marw anedig. Gofynnodd Mr Cooper i'r Parch Mirehouse be ddylai wneud efo'r corff gan fod mynwent yr eglwys wedi ei gau ers mis Awst. Roedd cae wedi clustnodi am fynwent newydd ond heb ei awdurdodi gan y Swyddfa Gartref. Rhoddwyd y corff i'r rheithor gyda’r tad yn disgwyl byddai'r corff yn cael ei gladdu yng nghornel maes y fynwent newydd arfaethedig. (Ar y pryd byddai dim disgwyl i gorff baban marw anedig cael claddedigaeth Cristionogol llawn mewn tir cysegredig).

Dadl y fynwent

golygu

Roedd y Parch Mirehouse wedi cael llond bol ar ddisgwyl i'r Swyddfa Gartref rhoi trwydded i'r fynwent newydd gan ei fod yn ei chael hi'n anodd cael hyd i lefydd i gladdu meirwon y plwyf. Roedd Syr William Harcourt, yr Ysgrifennydd Cartref, wedi gwrthod rhoi'r drwydded heb gwarant y byddai anghydffurfwyr yn cael eu claddu yn y mynwent newydd [2]. Roedd Mirehouse wedi gwrthod caniatad i gladdu anghydffurfwyr yn y gorffennol [3] ac yn gwrthod rhoi y sicrwydd roedd ei angen i'r Ysgrifennydd [4].

Parsel yn y post

golygu
 
Syr William Harcourt

Yn hytrach na chladdu'r baban rhoddodd Mirehouse hi mewn bocs a'i danfon mewn parsel wedi ei gyfeirio at yr Ysgrifennydd Cartref fel protest gyda'r gair perishable wedi ei ysgrifennu ar y label. Danfonwyd y pecyn gyda'r trên. Gan fod pecyn gyda deunydd darfodus wedi cyrraedd ar y Sul pan fyddai'r Swyddfa Gartref ar gau danfonwyd neges i'r Ysgrifennydd Cartref i ddweud bod y pecyn wedi cyrraedd. Wedi agor y pecyn cafwyd hyd i gorff baban benywaidd wedi ei lapio mewn lliain wen yn y parsel. Cysylltwyd â'r heddlu a chynhaliwyd archwiliad post mortem ar y corff.

Ymchwiliadau

golygu

Wedi ymchwiliad gan yr heddlu cafwyd hyd i rieni'r plentyn a'r ffaith bod y pecyn wedi ei ddanfon gan y Parch Mirehouse. Cynhaliwyd trengholiad a galwyd Jerry Cooper fel tyst. Mynegodd Cooper ffieidd-dra at ymddygiad y rheithor a mynnodd nad oedd ef yn rhan o'r brotest a dywedodd ei fod wedi ysgrifennu llythyr i Syr William yn ymddiheuro. Yn ei dystiolaeth ef cyfaddefodd y rheithor mae ef oedd yn gyfrifol am ddanfon y parsel gan gydnabod bod ei weithred yn un ffiaidd.

Dywedodd y crwner bod gweithred Mirehouse yn un o'r pethau mwyaf anweddus yr oedd wedi clywed am dano. Doedd dim modd i'r crwner cosbi'r rheithor ond fe wrthododd caniatáu iddo dderbyn y costau arferol a roddwyd i dystion mewn trengholiad.

Cafwyd archwiliad cyfreithiol o'r achos gan bargyfreithiwr oedd yn arbenigo mewn achosion eglwysig, Syr Walter Philmore QC, ar ran yr Ysgrifennydd Cartref [5] ond daeth i'r casgliad nad oedd y rheithor wedi gwneud dim oedd yn groes i gyfraith eglwysig Eglwys Loegr ac nad oedd modd ei ddisgyblu.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "SENDING A CORPSE TO THE HOME SECRETARY - The Aberystwith Observer". David Jenkins. 1884-11-15. Cyrchwyd 2018-09-23.
  2. "HOUSE OF COMMONS MONDAY - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1884-11-25. Cyrchwyd 2018-09-24.
  3. Granthem Matters Mirehouse, John – Cemetery was full, so vicar posted baby’s body to Home Office adalwyd 24 Medi 2018
  4. "A CLERGYMANS PRESENT OF "GAME" - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1884-11-26. Cyrchwyd 2018-09-24.
  5. "THE INFANTS BILL - The Aberdare Times". Josiah Thomas Jones. 1884-11-29. Cyrchwyd 2018-09-24.