Pentref a phlwyf sifil yn Swydd Lincoln, Dwyrain Canolbarth Lloegr, ydy Colsterworth.[1] Fe'i lleolir yn ardal an-fetropolitan De Kesteven. Mae'n gorwedd llai na hanner milltir (0.8 km) i'r gorllewin o'r A1, tua 7 milltir (11 km) i'r de o Grantham, a 12 milltir (19 km) i'r gogledd-orllewin o Stamford. Roedd gan y pentref, gyda phentrefig Woolsthorpe-by-Colsterworth, boblogaeth o 1,713 ar adeg Cyfrifiad 2011 mewn ardal o 1,465 hectar (3,620 erw).

Colsterworth
Mathpentref, plwyf sifil Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolArdal De Kesteven
Poblogaeth1,821 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSwydd Lincoln
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau52.8055°N 0.6182°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE04005894 Edit this on Wikidata
Cod OSSK932240 Edit this on Wikidata
Cod postNG33 Edit this on Wikidata
Map

Plwyf sifil

golygu

Mae'r plwyf sifil yn cynnwys pentrefig Woolsthorpe-by-Colsterworth, 0.6 milltir (1 km) i'r gogledd-orllewin o Colsterworth. Mae'r plwyf yn rhannu cyngor plwyf grŵp gyda Gunby a Stainby a Gogledd Witham, a elwir yn Gyngor Plwyf Colsterworth a'r Cylch.[2]

Mae Woolsthorpe-by-Colsterworth yn nodedig fel man geni Syr Isaac Newton, mae ei gartref, Woolsthorpe Manor, yn atyniad i ymwelwyr. Adeiladwyd neuadd bentref Woolsthorpe-by-Colsterworth o ganlyniad i apêl er cof am Newton, ac fe'i henwyd ar ei ôl. Bedyddiwyd Newton yn eglwys y plwyf Sant Ioan Fedyddiwr, lle mae copi o'r cofnod yn y gofrestr i'w ganfod.

Yr Eglwys

golygu

Mae eglwys y plwyf sydd wedi ei gysegru i Sant Ioan Fedyddiwr wedi bod yn adeilad rhestredig Gradd I ers 1966. Mae ei darddiad yn mynd yn ôl i'r cyfnodau Sacsonaidd Mae'n nodweddiadol am y gwaith cerrig asgwrn penwaig sydd yn y gangell. Gwarchodwyd y bwa Normanaidd yn ystod adnewyddiad Fictoraidd, ac mae'r eglwys hon yn enghraifft wych ohoni. Mae'r fynwent amgylchynol wedi'i gau ers bron i ganrif ond fe'i cedwir mewn trefn gan Gyngor y Plwyf. Y tu mewn i'r eglwys, tu ôl i'r organ, mae plât cloc haul carreg a gafodd ei thorri gyda chyllell boced Syr Isaac Newton pan oedd yn naw mlwydd oed. Mae rhieni Newton, Hannah Ayscough (bu farw 1679) a'i dad Isaac yr hynaf (bu farw 1642) wedi eu claddu ym mynwent yn yr eglwys.

Ym 1884, roedd y Parch John Mirehouse, rheithor Colsterworth, yn gyfrifol am y stỳnt gyhoeddusrwydd a sgandal Baban y Swyddfa Gartref.[3][4]

Galeri

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. British Place Names; adalwyd 24 Medi 2018
  2. "Colsterworth and District Parishes". Lincolnshire Parish Councils ; South Kesteven. Lincolnshire county council. Cyrchwyd 8 Medi 2018.
  3. "SENDING A CORPSE TO THE HOME SECRETARY - The Aberystwith Observer". David Jenkins. 15 Tachwedd 1884. Cyrchwyd 24 Medi 2018.
  4. Granthem Matters Mirehouse, John – Cemetery was full, so vicar posted baby’s body to Home Office adalwyd 24 Medi 2018