Baban dethol

(Ailgyfeiriad o Babi Dylunydd)

Baban dethol (Saesneg: Designer baby) yw plentyn sydd â genynnau etifeddol sydd wedi cael eu dethol drwy ddefnyddio technoleg atgenhedlu genetig.[1] Pwrpas hyn yw creu y cyfuniad perffaith o enynnau'r rhieni i sicrhau iechyd, rhyw a nodweddion esthetig megis lliw gwallt a lliw llygaid y plentyn.

Baban dethol
MathBabi, GMO Edit this on Wikidata
Label brodoroldesigner baby Edit this on Wikidata
Enw brodoroldesigner baby Edit this on Wikidata
Babi yn cysgu

Materion moesol golygu

Mae yna lawer o bobl sy'n anghytuno â'r defnydd o dechnoleg atgenhedlu genetig oherwydd eu cred ei fod yn groes i natur ac nid yw’n cael ei dderbyn yn gymdeithasol oherwydd y posibilrwydd y gall hyn gael effaith mawr ar boblogaeth y byd. Ar y foment mae tua hanner poblogaeth y byd yn ddynion a'r hanner arall yn fenywod a phe caniateir dewis yna gall hyn gael effaith negyddol mewn gwledydd megis Tsieina ble mae statws y dyn yn uwch na’r fenyw.

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu

Gweler hefyd golygu