Bagloriaeth Cymru

cymhwyster addysg uwchradd yn y Deyrnas Unedig
(Ailgyfeiriad o Bac Cymreig)

Cymhwyster y gellir astudio ar ei gyfer yng Nghymru yw Bagloriaeth Cymru, a gyflwynwyd yn swyddogol ym mis Medi 2007 wedi i gynllun beilot gael ei redeg yn 2005. Mae'n gymhwyster ar gyfer Cyfnodau Allweddol 4 a 5, sy’n cydnabod bron pob agwedd ar fywyd. Mae’n rhoi cyfle i'r disgybl ddatblygu a gwella eu sgiliau allweddol yn ôl eu gallu a’u diddordebau personol. Cynigia amryw o brofiadau a chyfleoedd dysgu mewn ystod eang o feysydd, yn hytrach nag arholiad.

Bagloriaeth Cymru
Enghraifft o'r canlynolarholiad Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Mae Bagloriaeth Cymru wedi’i rhannu’n ddwy ran:

  • Opsiynau: cyrsiau/rhaglenni sydd ar gael ar hyn o bryd h.y. cyrsiau UG ac A2
  • Craidd: yn cynnwys pedair rhan h.y. Sgiliau Allweddol, Cymru, Ewrop a’r Byd, Addysg Gwaith-gysylltiedig ac Addysg Bersonol a Chymdeithasol.

Mae Diploma Uwch Bagloriaeth Cymru yn gyfwerth â phwyntiau UCAS a bydd eu gwerth yn debyg i radd A llawn (Lefel A) h.y. 120 pwynt. Mae cyflogwyr yn barod i gydnabod gwerth y Fagloriaeth hefyd, oherwydd ei fod yn brawf ychwanegol o addasrwydd y myfyriwr i waith.

"Mae’r sgiliau cyfan ynghyd â’r arbenigedd pwnc a ddatblygir trwy gyfrwng Bagloriaeth Cymru yn debygol o fod yn ddeniadol iawn i diwtoriaid sy’n ymwneud â mynediad myfyrwyr i brifysgolion." Yr Athro Jeff Thompson, Prifysgol Caerfaddon.

Gweler hefyd

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am addysg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato