Grand Ballon

(Ailgyfeiriad o Ballon d'Alsace)

Copa uchaf a chanolbwynt mynyddoedd y Vosges yn nwyrain Ffrainc yw Grand Ballon (Almaeneg: Großer Belchen; "balŵn mawr"). Mae'n gorwedd 25 km i'r gogledd-orllewin o Mulhouse, Alsace.

Grand Ballon
Mathmynydd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirHaut-Rhin Edit this on Wikidata
GwladBaner Ffrainc Ffrainc
Uwch y môr1,424 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau47.9008°N 7.0981°E Edit this on Wikidata
Amlygrwydd1,072 metr Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddHigher Vosges Edit this on Wikidata
Map

Mae rhai pobl yn dal i'w alw y Ballon de Guebwiller, ar ôl enw'r ddinas agosaf, Guebwiller, sy'n gorwedd 8 km i'r dwyrain. Mae'n gorwedd 1423.7 medr uwch lefel y môr yn ôl yr Institut Géographique National (IGN, "Arolwg Ordnans" Ffrainc).

Mae llwybr y Route des Crêtes yn mynd heibio i ddwyrain y copa, gan groesi bwlch 1343 m, rhwng Markstein a chraig Hartmannswillerkopf.

Panorama 360° o'r copa - 14 Ionawr 2005
Panorama 360° o'r copa - 7 Ionawr 2006
7 Ionawr 2006