Arolwg Ordnans
Mae'r Arolwg Ordnans (Saesneg: Ordnance Survey) yn cyhoeddi cyfres o fapiau awdurdodol ar gyfer Prydain Fawr i gyd, ar sawl graddfa. Ond mae'r OSNI yn cyhoeddi mapiau cyffelyb ar gyfer Gogledd Iwerddon.
Enghraifft o'r canlynol | menter sy'n eiddo i'r wladwriaeth, adran anweinidogol o'r llywodraeth, national mapping agency |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1791 |
Aelod o'r canlynol | World Wide Web Consortium, Open Geospatial Consortium, EuroGeographics, British and Irish Committee on Map Information and Cataloguing Systems |
Pencadlys | Explorer House |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Gwefan | https://www.ordnancesurvey.co.uk/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yn ogystal â'r mapiau ar bapur, mae'n nhw'n cyhoeddi'r graddfeydd mwya poblogaidd ar eu gwefan Get-a-Map, a thrwy wefannau cwmnïau eraill.
Enghraifft o Fap Arolwg Ordnans
golyguMae'r enghraifft hon, sydd yn dod trwy'r gwasanaeth Get-a-Map, yn dangos rhan o swydd Caint yn Ne-ddwyrain Lloegr, ar raddfa 1:25000, sef 4 centimetr ar y map i bob cilometr ar y tir (ond gall y maint ar fonitor cyfrifiadurol fod yn wahanol, wrth gwrs). Mae'r raddfa hon yn addas i gerddwyr, ond mae graddfa llai yn well i yrrwyr ceir. TV580982 yw'r lleoliad grid yng nghanol y map.
Pethau i'w gweld yn yr enghraifft
golygu- Mae'r map yn defnyddio'r drefn arferol am gyfeiriadau: gogledd i fyny, dwyrain i'r dde, de i lawr, a gorllewin i'r chwith.
- Mae'r llinell goch dew yn dangos ffordd A (prif ffordd), a'r llinell felyngoch dew yn dangos ffordd B (ffordd llai bwysig). Mae'r ffyrdd bach iawn yn wynion. Byddai traffordd yn cael ei dangos gyda llinell las.
- Mae'r llinellau melyngochion meinion yn dangos yr uchder (metrau), trwy gysylltu lleoedd â'r un uchder. Er enghraifft, pen bryn ydy Warren Hill (D.Ddn.), llechweddau ydy Pea Down (G.On.) a Crapham Down (D.On.), a chwm ydy Crapham Bottom (D.). Mae'r rhifau duon (e.e. 158) yn dangos uchder lleol.
- Mae'r llinellau gwyrddion byrion yn dangos llwybrau troed, ac mae'r llinellau gwyrddion hirion yn dangos llwybrau ceffyl (caniateir cerddwyr a beiciau hefyd).
- Mae'r llinellau duon meinion yn dangos cloddiau rhwng y caeau.
- Mae'r ardaloedd gwyrddion (yn y dwyrain) yn dangos coed, a fe ddefnyddir yma symbol coed collddail.
- Dangosir ar y map hefyd clwb golff (symbol golff, G.), maes parcio (llythyren P, Dn.), hostel ieuenctid (triongl coch, G.Dn.), piler triongli (triongl glas golau, Dn.), a thai (e.e. G.Dn.).
- Mae'r hen lythyrennau o'r geiriau Cross Dyke i'r dwyrain yn dangos lle gyda diddordeb hanesyddol.
Dolenni allanol
golygu- Gwefan swyddogol
- (Saesneg) Arolwg Ordnans Gogledd Iwerddon (OSNI) Archifwyd 2005-08-10 yn y Peiriant Wayback
- (Saesneg) Gwasanaeth Get-a-map