Banda Neira
Banda Neira yw'r unig anheddiad sylweddol o ran maint ar unrhyw un o'r Ynysoedd Banda. Fe'i lleolir yn nhalaith Maluku yn Indonesia. Lleolir y ddinas ar yr ynys ganolog o'r grŵp Bandas, Banda Neira, a dyma yw'r unig ynys digon o dir gwastad i fedru adeiladu tref fechan. Mae swyddfeydd y llywodraeth, storfeydd, cei a bron i hanner y boblogaeth o 14,000 i'w cael yno.
Math | ynys |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Maluku |
Sir | Central Maluku |
Gwlad | Indonesia |
Arwynebedd | 3 km² |
Uwch y môr | 80 metr |
Gerllaw | Banda Sea |
Cyfesurynnau | 4.51222°S 129.903°E |
Hyd | 3.3 cilometr |
Arferai Banda Neira fod yn ganolfan rhyngwladol ym masnach nytmeg a byrllysg, am mai'r Ynysoedd Banda oedd yr unig ffynhonnell o'r perlysiau gwerthfawr hyn tan canol yr 19g. Sefydlwyd y dref fodern gan aelodau o'r Vereenigde Oost-Indische Compagnie ("Cwmni Unedig India'r Dwyrain"), a laddodd neu a orfododd y mwyafrif o'r trigolion Bandaneaidd i adael er mwyn cymryd mantais o'r adnodd gwerthfawr hwn.
-
Banda Neira ar ddiwedd y 1990au - yr olygfa o Gunung Api