Maluku (talaith)
Un o daleithiau Indonesia yw Maluku. Mae'n ffurfio rhan ddeheuol Ynysoedd Maluku (y Moluccas), i'r dwyrain o Sulawesi, i'r gorllewin o Gini Newydd ac i'r gogledd o Timor. Y brifddinas yw Ambon.
Arwyddair | Siwa Lima |
---|---|
Math | talaith Indonesia, ardal ddiwylliannol |
Prifddinas | Ambon |
Poblogaeth | 1,881,727 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Murad Ismail |
Cylchfa amser | UTC+09:00 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Indonesia |
Gwlad | Indonesia |
Arwynebedd | 46,914.03 km² |
Uwch y môr | 725 metr |
Gerllaw | Seram Sea, Banda Sea |
Yn ffinio gyda | Gogledd Maluku, Gorllewin Papua, Dwyrain Nusa Tenggara, Dwyrain Timor, Southwest Papua |
Cyfesurynnau | 3.705°S 128.17°E |
Cod post | 97114 - 97669 |
ID-MA | |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Governor of Maluku |
Pennaeth y Llywodraeth | Murad Ismail |
O 1950 hyd 1999 roedd ynysoedd Maluku yn ffurfio un dalaith o Indonesia, ond yn y flwyddyn honno gwahanwyd hwy yn ddwy dalaith, sef Maluku a Gogledd Maluku. Arferai rhai o'r ynysoedd hyn fod o bwysigrwydd mawr oherwydd y sbeis a dyfid arnynt. Hyd y 19g, Ynysoedd Banda oedd yr unig le yn y byd lle'r oedd nwtmeg yn tyfu.
Ynysoedd
golygu- Ynys Ambon (yr ynys fwyaf)
- Ynysoedd Aru
- Ynysoedd Babar
- Ynysoedd Banda
- Buru
- Ynysoedd Kai
- Ynys Leti
- Seram
- Ynysoedd Tanimbar
- Wetar