Bando (band)
Band pop Cymraeg o'r 1980au oedd Bando gyda Caryl Parry Jones yn brif leisydd a phrif gyfansoddwr caneuon y grŵp. Roedd y band yn nodedig am ei ganeuon pop slic a fideos trawiadol. Un o ganeuon enwocaf y band oedd Chwarae'n troi'n chwerw.
Enghraifft o'r canlynol | band |
---|
|
|||||
Yn cael trafferth gwrando ar y ffeil? Gweler Cymorth - sain. |
Ffurfiwyd y band yng Nghaerdydd yn 1979 gan griw o gerddorion oedd wedi bod yn weithgar mewn bandiau Cymraeg ers rhai blynyddoedd. Roedd Myfyr Isaac yn cynhyrchu recordiau'r band yn ogystal â chwarae'r gitâr.[1]
Cynhyrchwyd ffilm ddogfen Shampŵ am y band gan Endaf Emlyn, a fe enillodd wobr Ysbryd yr Ŵyl yng Ngŵyl Ffilm a Theledu Geltaidd, 1983.[2]
Aelodau
golygu- Rhys Dyrfal Ifans - gitâr fas, llais
- Caryl Parry Jones - prif lais, piano
- Huw Owen - sacsoffon, ffliwt, llais
- Martin Sage - gitâr rythm, trwmped, llais
- Steve Sardar - gitâr flaen, llais
- Gareth Thomas - drymiau, llais
Disgyddiaeth
golyguTeitl | Caneuon | Fformat | Label | Rhif Catalog | Dyddiad ryddhau |
---|---|---|---|---|---|
Y 'Space Invaders' | "Y 'Space Invaders' / Ws ti Be" | Sengl 7" | Recordiau Sain | SAIN 74S | 1980 |
Hwyl ar y Mastiau | Ochr 1
Ochr 2
|
LP | Recordiau Sain | SAIN 1198M | 1980 |
Shampŵ | Ochr 1
Ochr 2
|
LP/Caset | Recordiau Sain | 12" - SAIN 1225M Caset - C825N |
1982 |
Dolenni allanol
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ CARYL PARRY JONES - Bywgraffiad. Sain. Adalwyd ar 2 Mawrth 2017.
- ↑ (Saesneg) Emlyn, Endaf (1944-). BFI. Adalwyd ar 2 Mawrth 2017.