Caryl Parry Jones
Cantores, cyfansoddwraig, digrifwr, awdures a darlledwraig o Gymraes yw Caryl Parry Jones (ganwyd 16 Ebrill 1958). Cychwynodd fel cantores a chyfansoddwr caneuon. Daeth yn adnabyddus yn yr 1980au fel cyflwynydd teledu, digrifwr a dynwaredwr.
Caryl Parry Jones | |
---|---|
Ganwyd | 16 Ebrill 1958 Ffynnongroyw |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, canwr, bardd, llenor, cyfansoddwr |
Tad | Rhys Jones (cerddor) |
Priod | Myfyr Isaac |
Ganed Caryl Parry Jones yn ferch i Rhys Jones, cerddor ac athro, a'i wraig Gwen,[1] fe'i magwyd yn Ffynnongroyw, rhwng Treffynnon a'r Rhyl, lle mynychodd Ysgol Mornant cyn symud ymlaen i Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy. Astudiodd y Gymraeg a Chymdeithaseg ym Mhrifysgol Cymru, Bangor.
Mae'n briod â Myfyr Isaac, ac mae ganddynt bump o blant - Miriam, Greta, Elan a Moc. (Gideon yn llys fab iddi)[2]
Gyrfa
golyguCerddoriaeth
golyguYn ystod ei hamser yn yr ysgol uwchradd ffurfiodd y grwp Sidan gyda Sioned Mair, gan ryddhau un record hir, Teulu Yncl Sam, ynghyd â dwy record fer.
Ymunodd â'r band Gymraeg, Injaroc, tra yn y brifysgol, ond chwalodd y grŵp wedi naw mis, ar ôl rhyddhau un record hir o'r enw Halen y Ddaear. Un o ganeuon Caryl ar y record hon oedd Calon, cân a recordiwyd yn ddiweddarach gan grwp Diffiniad fel trac disgo yn ystod y 1990au.
Ar ôl gadael y coleg, symudodd i Gaerdydd lle y bu'n cyflwyno'r rhaglen blant Bilidowcar a'r Ffalabalam a'r gyfres bop, Sêr 2. Yno, ffurfiodd y grŵp Bando gyda Rhys Ifans, Gareth Thomas, Huw Owen, Martin Sage a Steve Sardar, a hithau yn brif leisydd. Rhyddhawyd sengl 'Space Invaders/ Wstibe' (1980) a dwy record hir, Hwyl ar y Mastiau (1980) a Shampŵ (1982), record sy'n cynnwys un o ganeuon mwyaf adnabyddus Caryl, sef Chwarae'n Troi'n Chwerw. Myfyr Isaac oedd cynhyrchydd y cyfan.
Wedi i Bando chwalu, parhaodd i berfformio gyda Myfyr Isaac o dan yr enw Caryl a'r Band. Ymddangosodd hefyd yn y ffilmiau Gaucho (1983) a The Mimosa Boys (1983). Mae hi hefyd yn chwarae'n fyw gyda'i band newydd, y Millionaires.
Teledu
golyguCafodd gyfres deledu ei hun, Caryl, ar S4C rhwng 1983 a 1987 a oedd yn gyfuniad o berfformiadau cerddorol a sgetsys comedi. Ymddangosodd yn y gyfres Dawn yn gwneud dynwarediadau ac yn chwarae rhannau gwahanol gymeriadau, yn arbennig Glenys, Lavinia a Delyth. Yn ddiweddarach, seiliwyd dwy ffilm deledu ar y cymeriadau hyn, sef Ibiza, Ibiza! (1986) a Steddfod, Steddfod (1989), gyda Caryl yn ymddangos efo Siw Hughes, Huw Chiswell ac Emyr Wyn. Yn 1985 fe gyd-ysgrifennodd y ffilm gerdd Y Dyn 'Nath Ddwyn y Dolig gyda Hywel Gwynfryn. Ar ddechrau y 1990au fe wnaeth hi chwarae rhan y fam yn y gyfres comedi deuluol Hapus Dyrfa.
Ymddangosodd Caryl ar y gyfres Wawffactor, y sioe dalent ar S4C, yn rhoi cyngor a hyfforddiant llais i'r cystadleuwyr.
Fe ddychwelodd i fyd comedi teledu yn 2013 gyda'r rhaglen Caryl ar S4C oedd yn cynnwys cymysgedd o sgetsus a cherddoriaeth,[3] a ddilynwyd gan dau gyfres pellach o dan y teil Caryl a'r Lleill yn 2014 a 2015. Fe aeth un o gymeriadau'r rhaglen gomedi, "Anita" ymlaen i serennu mewn rhaglen ddrama arbennig Anita yn 2015 a fe ddilynwyd hyn gan gyfres o chwe pennod yn Mawrth 2016.[4]
Roedd hefyd yn un o'r Jones's a dorodd record y byd Jones Jones Jones am gasglu ynghyd y nifer fwyaf o bobl yn rhannu’r un cyfenw yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn 2006, gan fod yn un o 1,224 Jones a gymerodd rhan.[5][6][7]
Radio
golyguRhwng 2010 a 2014 roedd yn cyflwyno sioe frecwast ar BBC Radio Cymru gyda Dafydd Du.[8] Daeth y ddau nôl gyda'i gilydd i gyflwyno sioe gynnar ar Radio Cymru 2 yn Ionawr 2018.[9]
Yn 2022, cyhoeddwyd byddai Jones yn cyflwyno'r "shifft hwyr" ar BBC Radio Cymru, wrth olynu Geraint Lloyd.[10]
Awdur
golyguCaryl oedd Bardd Plant Cymru 2007–2008, ac mae erbyn hyn wedi ysgrifennu sawl llyfr ar gyfer plant.
Disgyddiaeth
golyguLlyfryddiaeth
golygu- Barti Smarti a Straeon a Cherddi Eraill, Mai 2008 (Gwasg Gomer)
- Siocled Poeth a Marshmalos, Hydref 2009 (Gwasg Gomer)
- Cyfres Dewin: 3. Ffrindiau'r Goedwig, Tachwedd 2011 (Gwasg Gomer)
- Cyfres Dewin: 4. Ar Lan y Môr, Tachwedd 2011 (Gwasg Gomer)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Rhys Jones: Gŵr y Gân. S4C. Adalwyd ar 5 Ionawr 2012.
- ↑ Talent dibendraw’r Parry Isaacs Archifwyd 2017-06-19 yn y Peiriant Wayback. Pobl Caerdydd, 18 Rhagfyr 2014; Adalwyd 2015-12-30
- ↑ Karen Price. Caryl Parry Jones provides a mix of comedy and music in her new TV series (en) , WalesOnline, 19 Ionawr 2013.
- ↑ Anita’n codi gwên ar nos Sul. S4C (11 Mawrth 2016).
- ↑ 'Darlledu Sioe’r Jonesiaid a Dorrodd Record Byd' 26 Tachwedd 2006 S4C
- ↑ "1,224 o Jonesiaid yn torri record byd!". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-05-01. Cyrchwyd 2007-11-07.
- ↑ Meet the Joneses for world record BBC 19 Gorffennaf 2006
- ↑ Dafydd a Caryl. BBC Cymru. Adalwyd ar 29 Rhagfyr 2017.
- ↑ Dafydd a Caryl yn ôl efo’i gilydd ar Radio Cymru 2 , Golwg360, 14 Rhagfyr 2017. Cyrchwyd ar 29 Rhagfyr 2017.
- ↑ "Caryl Parry Jones yn olynu Geraint Lloyd fel cyflwynydd y 'shifft hwyr' ar Radio Cymru". Newyddion S4C. S4C. 2022-08-31. Cyrchwyd 2022-08-31.