Baner Casachstan
Maes glas gyda phatrwm addurnol traddodiadol melyn yn yr hoist a symbol melyn yn ei ganol o berkut (eryr y stepdiroedd) o dan haul â 32 o belydrau yw baner Casachstan. Mae'r maes glas yn cynrychioli'r awyr sydd uwchben y Casaciaid yn ogystal â lles da, llonyddwch, heddwch, ac undod, ac mae'r berkut a'r haul yn cynrychioli cariad, rhyddid, a dyheadau'r Casaciaid. Mabwysiadwyd ar 4 Mehefin, 1992, yn sgîl annibyniaeth y wlad oddi wrth yr Undeb Sofietaidd (a gafwyd ar 25 Rhagfyr, 1991).
![]() | |
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | baner cenedlaethol ![]() |
Lliw/iau | glas yr awyr, aur ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 4 Mehefin 1992 ![]() |
![]() |
ffynonellauGolygu
- Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)